Skip to content

Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster cyffrous sy'n rhoi dimensiwn newydd, gwerthfawr, i'r pynciau a'r cyrsiau sydd eisoes ar gael i fyfyrwyr 14 - 19 mlwydd oed. Mae'n cyfuno sgiliau datblygu personol â chymwysterau sydd eisoes yn bodoli, fel Safon Uwch, NVQ a TGAU, i greu un cymhwyster mwy eang ei gwmpas, sy'n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi gan gyflogwyr, prifysgolion a Sefydliadau Addysg Uwch eraill.

Mae cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn cael ei werthfawrogi oherwydd ei fod yn helpu i ddatblygu sgiliau personol dysgwyr. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol os yw dysgwyr am lwyddo pan fyddant yn gadael yr ysgol ac yn dechrau ym myd gwaith, neu’n mynd ymlaen i addysg bellach. Mae dros 200 o ganolfannau yng Nghymru wedi'u cymeradwyo i gynnig Cymhwyster Bagloriaeth Cymru i ryw 53,000 o ddysgwyr o fis Medi 2010 ymlaen.

"Mae Bagloriaeth Cymru wedi trawsnewid dysgu yn yr ysgol. Mae gan fyfyrwyr well agwedd, ac maen nhw wir yn teimlo eu bod nhw ar eu hennill o'r gwaith datblygu personol a'r gwelliannau i'r sgiliau allweddol. Dw i hefyd yn meddwl ei fod yn eu helpu i wella eu marciau yn y pynciau 'Opsiynau'.”

Phil Davies, Pennaeth y Chweched Dosbarth, Ysgol Sant Cyres

Ewch i wefan Bagloriaeth Cymru am ragor o wybodaeth.