Skip to content

Sgiliau Allweddol Ehangach

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Nod Sgiliau Allweddol Ehangach yw meithrin a chydnabod gallu ymgeiswyr i gymhwyso sgiliau mewn amryw o ffyrdd a chyd-destunau er mwyn gwella ansawdd eu dysgu a'u perfformiad.

Dyma'r tri chymhwyster sydd ar gael o dan Sgiliau Allweddol Ehangach:

  • Datrys Problemau;
  • Gweithio gydag Eraill;
  • Gwella'ch Dysgu a'ch  Perfformiad eich Hun.

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Ehangach ar gael o Lefel 1 hyd at Lefel 4 a gall ymgeiswyr symud drwy'r lefelau wrth i'w sgiliau wella.

Asesiadau

Ar hyn o bryd, mae Sgiliau Allweddol Ehangach yn cael eu hasesu drwy bortffolio o dystiolaeth a gyflwynir gan yr ymgeisydd ar ffurf copi caled neu'n electronig, neu drwy gyfuniad o'r rhain. Caiff y portffolio ei asesu'n fewnol gan ganolfan yr ymgeisydd a'i gymedroli/ei ddilysu'n allanol gan gorff dyfarnu'r ganolfan.

Dyfodol Sgiliau Allweddol Ehangach

Un o'r argymhellion yn yr Adolygiad o Gymwysterau 14-19 (2012) yw na ddylai cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru gael eu defnyddio mwyach o fewn Bagloriaeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed. Bydd y Gweinidog yn ymateb i'r argymhelliad hwn erbyn diwedd mis Ionawr 2013.

Bwriedir mynd ati yn 2013, drwy gysylltu a thrafod yn eang â rhanddeiliaid, i adolygu cynnwys, strwythur  a dulliau asesu Sgiliau Allweddol Ehangach, a chaiff cymwysterau newydd eu treialu yn 2014. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cynnwys Sgiliau Allweddol Ehangach o dan faner Sgiliau Hanfodol Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch ag essentialskillswales@wales.gsi.gov.uk  

Safonau a chanllawiau Sgiliau Allweddol Ehangach (gan gynnwys dogfennau i'w lawrlwytho)

Mae safonau Sgiliau Allweddol Ehangach yn amlinellu'r hyn y mae angen i chi ei wybod a'r hyn y mae angen i chi fedru ei wneud er mwyn ennill y cymwysterau hyn. Gweler yr Adran Lawrlwytho isod: