Skip to content

Ysgolion

Dolenni perthnasol

Mae gwefan newydd arloesol wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw, ac ynddi geir gwybodaeth ystadegol am bob un ysgol a gynhelir yng Nghymru
Mae’r ddogfen ganllawiau canlynol yn rhoi cyngor i ysgolion wrth benderfynu a ddylai ysgol gau neu aros ar agor yn ystod tywydd gwael eithafol.
Mae cyhoeddiadau yn rhan bwysig o waith yr Adran Addysg a Sgiliau.
Gweler yr ymgynghoriadau Addysg a sgiliau cyfredol.
sy’n sicrhau bod canllawiau a dogfennau ar gael er mwyn helpu rhanddeiliaid a sefydliadau addysg/addysgu i fwrw ymlaen â’u gwaith.
Plant yn astudio yn yr ysgol
This section provides information on the initiatives that we have in place to support this sector.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i system o ysgolion cyfun cymunedol sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Saesneg neu’r Gymraeg, yn ddwyieithog neu yn unol â ffydd.

Mae mwyafrif llethol yr ysgolion, yr awdurdodau lleol, yr athrawon a’r rhieni o blaid hyn. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn, lle bynnag mae’n byw, yn gallu manteisio ar addysg o ansawdd uchel – a hynny mewn amgylchedd sy’n addas ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm Cenedlaethol – sy’n ei alluogi i ddatblygu i’w lawn botensial. Er mwyn gwireddu hyn, mae angen i ysgolion anelu’n uwch.

Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth ar gyfer ysgolion y dyfodol:

  • bydd yr addysgu a’r dysgu ynddynt yn ysbrydoledig ac o ansawdd uchel;
  • byddant yn darparu cwricwlwm eang sy’n symbylu’r dysgwyr ac sy’n cynnig dewis iddynt;
  • byddant yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu yn eu hamser eu hunain, a bydd y targedau cyrhaeddiad a’r dulliau asesu yn cydnabod amrediad ehangach o gyrhaeddiad;
  • bydd cynhwysiant cymdeithasol, datblygu cynaliadwy, cyfleoedd cyfartal a dwyieithrwydd yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd yr ysgol.