Skip to content

Cwricwlwm i bob dysgwr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r ddogfen yn rhoi canllawiau i athrawon/ymarferwyr o ddysgwyr sydd ag amrywiaeth o anghenion addysgol arbennig mewn lleoliadau/ysgolion y brif ffrwd a rhai arbennig. Mae’n cefnogi addysgu ac Asesu Cwricwlwm ysgol 2008.

Mae’r canllawiau’n canolbwyntio’n benodol ar Gyfnodau Allweddol 2 a 3, ond bydd hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer staff sy’n gweithio yn y Cyfnod Sylfaen a gyda dysgwyr 14-19, mewn amrywiaeth o leoliadau.

Mae’r canllawiau hyn yn seiliedig ar Hawliau’r Plentyn ac mae’n cynnwys saith nod craidd sy’n anelu at sicrhau bod pob plentyn a person ifanc yn datblygu I’w llawn potensial ac:

  • yn cael dechrau da mewn bywyd;
  • yn cael ystod gynhwysfawr a gyfleoedd Addysg a dysgu;
  • yn mwynhau’r iechyd gorau posib, yn rhydd o gamdriniaeth, erledigaeth ac ecsploetiaeth;
  • yn gallu cael mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol;
  • yn cael pobl I wrando arnyn nhw, yn cael eu trin gyda pharch, gan gydnabod eu hil a’u hunaniaeth ddiwylliannol;
  • yn byw mewn cartref a chymuned ddiogel sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol;
  • ddim dan anfantais oherwydd tlodi.