Skip to content

Gyrfaoedd a’r byd gwaith

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae sut y caiff pobl ifanc eu cyflwyno i fyd gwaith ac i’r llwybrau posibl ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol yn chwarae rhan hanfodol i’w sbarduno i ddychmygu eu dyfodol a chynllunio ar ei gyfer.

Mae Gyrfaoedd a'r byd gwaith (GBG) yn rhan o'r cwricwlwm sylfaen i bob disgybl cofrestredig 11 i 16 oed mewn ysgolion a gynhelir. Mae'n rhan hefyd o'r gofynion ar gyfer Craidd Dysgu Llwybrau Dysgu 14-19.

Y man cychwyn i bob darparwr dysgu yng Nghymru yw 'Gyrfaoedd a'r byd gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru'. Mae'r fframwaith hwn yn dwyn ynghyd ac yn diwygio'r fframweithiau blaenorol ar gyfer addysg gysylltiedig â gwaith ac addysg a chyfarwyddyd gyrfaoedd. Dyma'r ddogfen allweddol y dylai darparwyr dysgu ei defnyddio er mwyn adolygu a darparu'r ddarpariaeth ar gyfer GBG i bobl ifanc 11 i 19 oed.

I gyd-fynd â'r fframwaith ceir canllawiau sydd wedi'u bwriadu i gynnig detholiad o ddeunyddiau allweddol i gydlynwyr, i'w helpu i reoli'r maes hwn. Mae'r canllawiau wedi'u cyfeirio at bawb sy'n gweithio yn y maes hwn, ond yn cydnabod y bydd y darparwyr yn dethol y rhannu hynny sy'n arbennig o berthnasol i'w hamgylchiadau nhw.

Mae'r templedi a'r samplau yn y canllawiau ar gael hefyd ar ffurf Word. Maen nhw'n cael eu cynnig fel man cychwyn er mwyn sicrhau na fydd angen i neb greu'r offer sylfaenol ar gyfer eu gwaith o ddim byd.

Mae rhagor o gymorth a hyfforddiant yn cael ei gynnig ar amryw o ffyrdd gan Gyrfa Cymru ac anogir darparwyr i siarad â'r cwmni gyrfaoedd lleol am eu hanghenion penodol.