Skip to content

Addysg grefyddol

Dolenni perthnasol

Crynodeb yw’r adolygiad hwn o waith y CYSAG; mae’n dangos sut maen nhw’n cefnogi ysgolion ac yn ceisio codi safonau addysg grefyddol ac addoli ar y cyd yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae addysg grefyddol yn annog dysgwyr i archwilio ystod o gwestiynau athronyddol, diwinyddol, moesegol ac ysbrydol mewn ffordd fyfyriol, dadansoddol a chytbwys sy’n ysgogi cwestiynau a dadl.

Datblygwyd y fframwaith AG ochr yn ochr â'r adolygiad o'r cwricwlwm cenedlaethol. Mae'n rhoi cyfle i CYSAG (Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol) a'r AALlau (Awdurdodau Addysg Lleol) deilwra'r meysydd llafur y penderfynwyd arnynt yn lleol er mwyn gwella safonau addysg grefyddol yn genedlaethol trwy ddarparu fframwaith cwricwlwm ac asesu cydlynol ar gyfer Cymru.  

Mae'r ddogfen ‘Fframwaith enghreifftiol cenedlaethol ar gyfer cyflwyno addysg grefyddol i ddysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru’ yn cynnwys:

  • rhaglenni astudiaeth enghreifftiol ar gyfer pob cyfnod allweddol, ynghyd â disgrifiadau o'r lefelau.

Canllawiau pwnc

Mae'r dogfennau 'Addysg grefyddol: Canllawiau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3' a 'Proffiliau enghreifftiol dysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 mewn addysg grefyddol: Canllawiau ychwanegol’:

  • yn cefnogi’r broses o weithredu’r fframwaith enghreifftiol ar waith drwy ddarparu negeseuon allweddol ar gyfer cynllunio dysgu ac addysgu
  • yn tynnu sylw at ddisgwyliadau a dilyniant mewn addysg grefyddol
  • yn cynnwys proffiliau gwaith dysgwyr i ddangos sut y defnyddir y disgrifiadau lefel wrth lunio barn gyffredinol ar ddiwedd y cyfnod allweddol.

Mae'n bosibl y bydd y ffeiliau manylder uwch a ddarparwyd ar y CD-ROM sy’n cyd-fynd â’r pecyn yn araf i'w llwytho i rai cyfrifiaduron ysgol. Os felly, mae'n bosibl eu lawrlwytho drwy ddefnyddio'r ddolenni isod. Mae'r ffeiliau hyn yn llawer llai ac yn haws eu lawrlwytho.
Mae'r ddogfen 'Addysg grefyddol: Canllawiau ar gyfer dysgwyr 14 i 19 oed':

  • yn cefnogi’r broses o weithredu’r fframwaith enghreifftiol
  • yn rhoi canllawiau ar berthnasedd a manteision y sgiliau a'r wybodaeth y gallai pobl ifanc 14-19 oed eu cael o ganlyniad i addysg grefyddol
  • yn darparu astudiaethau achos o'r modelau cyflawni posibl.

Ni ddylid edrych ar y canllawiau hyn na'u defnyddio ar eu pen eu hunain, ond yn hytrach dylid eu cynllunio mewn perthynas â Llwybrau Dysgu 14-19 a'r cwricwlwm ehangach a gynigir yn ystod y cam hwn yn addysg y disgyblion.