Skip to content

Datblygu sgiliau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd yn seiliedig ar ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, ac er mwyn ategu hyn, datblygwyd fframwaith sgiliau anstatudol, 'Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 yng Nghymru'.
Mae’r fframwaith hwn yn rhan allweddol o’r cwricwlwm diwygiedig sy’n canolbwyntio’n fwy ar ddysgwyr a sgiliau ac sydd i’w roi ar waith yng Nghymru o fis Medi 2008. Mae’n rhoi canllawiau am barhad a dilyniant mewn meddwl, cyfathrebu, TGCh a rhif i ddysgwyr o 3 i 19 a’r tu hwnt - sgiliau sy’n gwbl hanfodol os yw dysgwyr am lwyddo.