Skip to content

Trefniadau asesu statudol ar gyfer diwedd y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2 a 3

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn disodli fersiwn 2011/12 o’r llyfryn trefniadau asesu statudol a’r llyfryn Trefniadau asesu ac adrodd statudol yn y Cyfnod Sylfaen.

Mae’n rhoi gwybodaeth bwysig ynghylch trefniadau asesu statudol yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3.

Dylai penaethiaid, llywodraethwyr, cydlynwyr ac athrawon a fydd yn ymwneud â’r trefniadau asesu statudol diwedd y Cyfnod Sylfaen a/neu gyfnod allweddol ymgyfarwyddo â’r gofynion allweddol a amlinellir yn y cyhoeddiad hwn.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, cyhoeddir gwybodaeth ar y trefniadau adrodd a Chasglu Data Cenedlaethol ar wahân yn y gwanwyn.

Ceir crynodeb o’r dyddiadau allweddol pan ddylai asesiadau athrawon fod wedi eu cwblhau ar gyfer adrodd a Chasglu Data Cenedlaethol isod.

Casglu Data Cenedlaethol: Dyddiadau allweddol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2012/13

  • Erbyn 19 Ebrill 2013: Ysgolion i dderbyn canllawiau ar y trefniadau Casglu Data Cenedlaethol ac adrodd gan Lywodraeth Cymru
  • 8–22 Mai 2013: Gweinyddu profion statudol darllen a rhifedd cenedlaethol mewn ysgolion
  • 14 Mai 2013: Dyddiad ar y gofrestr
  • 7 Mai 2013: Menter Cyfnewid Data Cymru (DEWi) ar gael i uwchlwytho ffeiliau Casglu Data Cenedlaethol sydd wedi eu cwblhau
  • Erbyn 14 Mehefin 2013: Holl asesiadau athrawon a sgoriau crai Profion Darllen Cenedlaethol i gyd ar gael ar DEWi er mwyn i Lywodraeth Cymru eu lawrlwytho (sylwer, gall awdurdod lleol osod dyddiad cau cynharach i hwyluso dilysu lleol)
  • Erbyn 5 Gorffennaf 2013: Dyddiad cau terfynol ar gyfer cyflwyno ffeiliau wedi eu newid ar ôl dilysu (sylwer, gall awdurdod lleol osod dyddiad cau cynharach)
  • Erbyn diwedd tymor yr haf 2013: Adroddiadau ysgol i rieni/gofalwyr
  • Erbyn diwedd Awst 2013: Cyhoeddi canlyniadau cenedlaethol ac awdurdodau lleol. Data yn cael ei basio i Estyn i lywio arolygiadau yn y flwyddyn academaidd 2013/14
  • Erbyn diwedd Awst 2013: Adroddiad cymharol ysgolion yn cynnwys meincnodi ar gael i ysgolion eu lawrlwytho oddi ar DEWi

(Dylai ysgolion uwchlwytho a dilysu eu ffeil gorffenedig cyn gynted â’i bod yn barod yn hytrach nag aros tan y dyddiad cau – bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i brosesu ffeiliau a datrys ymholiadau’n gynharach.)