Skip to content

Datblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu: rhaglen ddatblygu

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cartwn o tair plant.
Yn 2005, fe drefnon ni raglen i gynorthwyo ysgolion gyda'r gwaith o Ddatblygu Meddwl ac Asesu ar gyfer Dysgu.

Yn 2005 fe wnaeth APADGOS sefydlu ac ariannu rhaglen ar gyfer datblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu gan gydweithio mewn partneriaeth â chlystyrau o ysgolion ac ymgynghorwyr yr Awdurdodau lleol. Canolbwyntiodd y rhaglen ar ddatblygu, gweithredu a lledaenu arferion da wrth addysgu strategaethau datblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu.

Prif nodau’r rhaglen oedd:

  • gwella perfformiad disgyblion
  • ennyn diddordeb disgyblion mewn dysgu
  • newid arferion y dosbarth a thrwy hynny wella addysgeg
  • cynyddu amlder y gwersi creadigol.

Dewiswyd naw AALl ynghyd â grŵp o ysgolion arbennig i gymryd rhan yn y rhaglen. Dros gyfnod o dair blynedd, buom yn cydweithio ag ymgynghorwyr yr AALlau ac athrawon mewn ysgolion i ddewis strategaethau addas i’w defnyddio mewn ysgolion penodol, ac i fonitro a gwerthuso cynnydd.

Cafodd y rhaglen ei gwerthuso yn annibynnol gan asiantaeth allanol. Mae adroddiad llawn o’r gwerthusiad i’w weld isod.

Yn Ionawr 2009, estynnodd APADGOS y rhaglen i bob rhan o Gymru trwy wahodd pob awdurdod lleol i geisio am grant arian cyfatebol.

Gofynnwyd i bob awdurdod lleol enwebu 50 o athrawon arweiniol a chydweithio mewn partneriaeth ag APADGOS i hyfforddi a mentora’r rhain yn y flwyddyn gyntaf. Cynigiwyd y grant dros gyfnod o dair blynedd gan roi cyfanswm o 150 o athrawon arweiniol ym mhob awdurdod lleol.

Mae’r cynllun estynedig yn seiliedig ar y dull partneriaeth tair lefel a ddefnyddiwyd yn y cynllun peilot. Mae athrawon arweiniol o’r awdurdodau lleol yn cael eu hyfforddi gan ymgynghorwyr yr awdurdod a’u mentora gan swyddogion APADGOS.

Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am y gwaith hwn, anfonwch e-bost at Asesu@cymru.gsi.gov.uk