Skip to content

Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae llythrennedd yn sgil hanfodol ar gyfer bywyd.

Er mwyn iddyn nhw allu gwneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas, mae angen i bobl ifanc gael dealltwriaeth o iaith ysgrifenedig ac iaith lafar. Mae angen arnyn nhw y gallu i ddehongli’r hyn sydd wedi ei ysgrifennu neu ei ddweud a dod i gasgliadau o’r dystiolaeth sydd o’u hamgylch. Mae hefyd yn ymwneud â’r gallu i gyfathrebu – yn gywir, yn rhugl ac yn ddarbwyllol.

Mae llawer o ddysgu ac addysgu rhagorol yn digwydd ym maes llythrennedd mewn ysgolion ar draws Cymru. Fodd bynnag, nid yw’r profiadau cadarnhaol hyn mewn addysg yn gyson. Mae angen gweithredu er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn elwa ar ddulliau rhagorol o addysgu llythrennedd ac yn datblygu’r sgiliau sydd mor hanfodol i’w llwyddiant yn y dyfodol.

Mae Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol (RhLG) Cymru yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn eu cymryd i gyflawni newid sylweddol mewn safonau llythrennedd dros y pum mlynedd nesaf.