Skip to content

Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar wahardd a’r gweithdrefnau apêl ar gyfer ysgolion prif ffrwd ac unedau cyfeirio disgyblion a'r camau i gymryd i gynnal addysg disgyblion wedi gwahardd.

Mae’r canllaw yma yn disodli Cylchlythyr 1(A)/2004.

Prif gorff y testun: Mae’r canllawiau hyn yn cwmpasu gwahardd dysgwyr o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, y gweithdrefnau ar gyfer apelio yn erbyn gwaharddiad a’r camau i’w cymryd i sicrhau bod dysgwyr a waharddwyd yn parhau i gael eu haddysgu.

O dan Adran 52(4) o Ddeddf Addysg 2002, rhaid i benaethiaid, athrawon â gofal unedau cyfeirio disgyblion, cyrff llywodraethu, Awdurdodau Lleol a phaneli apêl annibynnol dalu sylw i’r canllawiau hyn wrth benderfynu gwahardd a gweinyddu’r gweithdrefnau a’r apeliadau sy’n ymwneud â gwahardd.