Skip to content

Grwpiau Anogaeth Llawlyfr I Ysgolion

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r llawlyfr hwn yn rhoi gwybodaeth am egwyddorion y grwpiau anogaeth. Mae'n rhoi cyngor ymarferol ar bennu, defnyddio a datblygu arferion effeithiol mewn grwpiau anogaeth.

Mae grŵp anogaeth:

  • yn ddosbarth bach ar wahân;
  • yn cynnig amgylchedd strwythuredig diogel a sefydlog;
  • yn rhoi'r cyfle i blant o brofiadau 'anogaeth' y maent wedi'u colli.

Yn ogystal â meithrin sgiliau cwricwlaidd, caiff pobl ifanc eu hannog i feithrin sgiliau fel gwrando, rhannu a chymryd tro.

Mae mwy a mwy o bobl am ddatblygu grwpiau anogaeth i helpu plant gyda phroblemau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol mewn ysgolion. Mae'r cynnydd hwn yn sgil tystiolaeth bod y dull wedi bod yn fanteisiol i blant agored i niwed a'u teuluoedd.

Mae'r llawlyfr yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i sefydlu a llwyddo i gynnal grwpiau anogaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae nifer o astudiaethau achos yn cefnogi ac yn dangos yr egwyddorion a esboniwyd.