Skip to content

Defnyddio grym rhesymol a chwilio am arfau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r ddogfen hon yn ymdrin â dwy elfen: canllawiau diwygiedig ar ddefnyddio grym (yn cymryd lle Cylchlythyr 37/98); a phwerau newydd i chwilio am arfau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Lleihau Troseddau Treisgar 2006 (â'u cyflwynwyd ym mis Hydref 2010).

Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar ddwy agwedd y bwriedir iddynt gefnogi ysgolion, awdurdodau lleol a’u partneriaid wrth ddarparu amgylchedd diogel i blant a phobl ifanc.

Cyflwynwyd y pŵer i allu chwilio disyblion am arfau heb eu caniatâd yn mis Hydref 2010. Mae’r pŵer i ddefnyddio grym rhesymol yr un fath, i bob pwrpas, a’r pŵer oedd eisoes yn ei le, a gyflwynwyd yn Neddf Addysg 1996. Mae’r ddwy adran o’r canllaw fel a ganlyn:

Adran 1

Canllaw diwygiedig ar y defnydd o rym i reoli neu atal disgyblion. Mae hwn yn ganllaw mwy cynhwysfawr sy’n disodli’r canllaw presennol a gynhwysir yng Nghylchlythyr 37/98 y Swyddfa Gymreig. Ceir dwy brif adran i’r canllawiau, mae un yn berthnasol i bob ysgol a disgybl ac mae’r llall yn berthnasol i ddisgyblion ag anawsterau ymddygiad difrifol, a fydd yn berthnasol iawn i ysgolion arbennig.

Adran 2

Canllawiau sy’n gysylltiedig â’r pŵer newydd i ysgolion allu chwilio disgyblion am arfau heb eu caniatâd, sydd wedi’i gynnwys yn Neddf Lleihau Troseddau Treisgar 2006. Mae hwn yn bŵer newydd yn hytrach nac yn ddyletswydd ac felly nid yw’n cyflwyno unrhyw ofyniad newydd i ysgolion sy’n dewis peidio â defnyddio’r pŵer.