Skip to content

Bwrdd Adfer Addysg Annibynnol Sir Ddinbych, Mehefin 19, 2008 - cyfarfod 4

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cynhaliwyd pedwerydd cyfarfod Bwrdd Adfer Addysg Annibynnol Sir Ddinbych ar 19 Mehefin 2008.

Gellir crynhoi prif ganfyddiadau ac asesiadau’r Bwrdd yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod fel a ganlyn:

  • Mae’r gwellhad wedi bod yn yr arweinyddiaeth a chyfeiriad mwy eglur art gyfer y gwasanaeth addysg o fewn yr awdurdod;
  • bu gwellhad yng ngallu swyddogion a chyfathrebu o fewn ysgolion, a chanolbwyntio mwy manwl ar wella ysgolion;
  • mae’n rhy gynnar eto i asesu effaith y newidiadau yma ar berfformiad ysgolion a’r gwasanaethau iechyd;
  • mae cyflwyniad effeithiol a defnydd data i fonitro perfformiad yn parhau i fod yn her;
  • buddsoddwyd ymdrech sylweddol mewn i gynhyrchu Cynllun manwl i Blant a Phobl Ifanc. Bydd angen ymgynghoriad pellach i sicrhau bod blaenoriaethau yn cael nawdd digonol a phriodol a sylw manwl;
  • mae ail-sefydlu Fforwm y Llywodraethwyr wedi bod yn gam cadarnhaol. Mae ganddo’r potensial i fagu mwy o ddealltwriaeth rhwng yr Awdurdod ac ysgolion. Mae angen goresgyn y diffyg diddordeb ymddangosiadol a geir ymhlith llywodraethwyr yn ne’r sir;
  • er bod rhaglen hyfforddiant i lywodraethwyr yn mynd yn ei flaen, chafodd fawr o effaith hyd yma. Mae angen i’r Awdurdod gyfeirio at faterion mewn perthynas â recriwtio, sefydlu a hyfforddiant parhaus llywodraethwyr. Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar fonitro perfformiad ysgol a dehongli data o fewn hyfforddiant llywodraethwyr;
  • mae parodrwydd y Pwyllgor Craffu, sydd a chanddi Gadeirydd newydd ac aelodaeth newydd gan fwyaf. Mae hyn am i herio’n gadarn yn argoeli’n dda ar gyfer ei swyddogaeth yn y dyfodol.

Yr her nawr yw sicrhau fod y newidiadau yma yn effeithiol lle bo’u hangen yn ddirfawr. Sef yn y ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a’u cyflawniadau.