Skip to content

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol

Cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau yn ei araith ym mis Chwefror y byddem yn cyflwyno prawf darllen cenedlaethol, a hefyd yn datblygu cynlluniau tebyg ar gyfer rhifedd, yn rhan o’n Cynllun Llythrennedd Cenedlaethol.

Mae gwella safonau llythrennedd a rhifedd yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo. Bydd y profion yn helpu athrawon ac ysgolion i nodi cryfderau a gwendidau unigolion a grwpiau o ddysgwyr. Byddan nhw’n helpu i sicrhau bod y rhai hynny sydd angen cymorth ychwanegol arnyn nhw yn cael eu nodi a’u cynorthwyo, a byddan nhw’n ein helpu ni i ganfod os yw ein polisïau yn cael yr effaith briodol.

Bydd y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn cael eu rhoi ar waith yn statudol; bydd y grwpiau cyntaf o ddysgwyr yn sefyll y profion ym mis Mai 2013.      

Bydd y profion wedi eu teilwra’n arbennig; rydym yn penodi arbenigwyr i ddatblygu a safoni’r profion, yn Gymraeg ac yn Saesneg, sy’n bodloni anghenion dysgwyr ac athrawon yng Nghymru.  

Bydd yn ofynnol i bob dysgwr o Flynyddoedd 2 i 9 sefyll y prawf darllen a’r prawf rhifedd. Dim ond y prawf darllen Cymraeg bydd yn rhaid i’r dysgwyr ym Mlynyddoedd 2 a 3, sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ei sefyll. Fodd bynnag, caiff ysgolion ddewis rhoi prawf i ddysgwyr Blwyddyn 3 yn Saesneg hefyd, os ydyn nhw’n dymuno. O Flwyddyn 4 ymlaen, bydd dysgwyr sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn sefyll profion Cymraeg a Saesneg. Ni fydd prawf yn cael ei gynnal ar gyfer dysgwyr Cymraeg ail iaith.

Er ei bod yn ddyddiau cynnar iawn yn natblygiad y profion, rydym yn gweithio yn unol â rhai egwyddorion allweddol. Bydd y profion yn:

  • hwyluso dysgu ac addysgu ac arfer da yn yr ystafell ddosbarth trwy gynnwys elfennau diagnostig
  • syml i’w gweinyddu â llaw
  • gallu cael eu gweinyddu mewn grwpiau
  • parhau dim mwy nag awr
  • gymharol hawdd i’w marcio, fel eu bod yn cymryd llai o amser yr athro/athrawes ac yn amharu llai ar yr ystafell ddosbarth.  

Yn y cyfamser, rydym yn ymwybodol fod y mwyafrif helaeth o ysgolion eisoes yn defnyddio amrywiaeth eang o brofion i asesu anghenion a chynnydd o ran darllen, agweddau ehangach ar lythrennedd a rhifedd a sgiliau rhif. Rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol i wneud y gorau o brofion darllen y flwyddyn academaidd hon ar sail anstatudol. Rydym yn dymuno i bob ysgol gynnal profion darllen, o Flynyddoedd 2 i 9 pan fo’n bosibl, fel nad ydym yn colli unrhyw gyfle i nodi cryfderau a gwendidau yn gynnar, a’n bod yn gallu rhoi sylw iddyn nhw. Nid ydym yn pennu pa brawf y dylid ei ddefnyddio y flwyddyn academaidd hon, ac ni fyddwn yn defnyddio’r data ar gyfer unrhyw ddibenion cymharu cenedlaethol. Fodd bynnag, byddwn yn trafod gyda’r awdurdodau lleol sut y gallwn ddysgu, a beth y gallwn ei ddysgu, trwy gynnal profion eleni.  

Cynhelir ymgynghoriad llawn ar y profion darllen a rhifedd arfaethedig y flwyddyn nesaf. Bydd hwn yn ystyried materion yn ymwneud â gweinyddu, sut y gellid cynnwys y canlyniadau mewn adroddiadau blynyddol i rieni/gofalwyr, a sut gellid casglu data a’i gynnwys mewn polisїau gwella eraill, gan gynnwys Setiau Data Craidd a bandio, ymysg materion eraill.

Wrth i ni weithio ar gynllun manwl y profion a’r broses o’u rhoi ar waith, byddwn yn cymryd camau pendant i geisio adborth gan ein cydweithwyr ar draws y sector. Byddwn yn gweithio i ymgysylltu’n eang â rhanddeiliaid, gan gynnwys rhieni/gofalwyr a llywodraethwyr, yn ogystal â darparu diweddariadau rheolaidd trwy gylchlythyr Dysg.