Skip to content

Bandio ysgolion

Dolenni perthnasol

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae bandio yn ffordd o’n helpu ni i weld sut mae ysgolion yng Nghymru yn perfformio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio bandiau terfynol ar gyfer ysgolion uwchradd yn seiliedig ar ddata 2012.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ym 2011 amlinellodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau yr angen am welliannau ynghyd â chyfres glir o gamau gweithredu er mwyn cyflawni’i agenda gwella. Roedd bandio yn un o’r camau hyn.
  • Mae’r Gweinidog wedi pwysleisio’r ffaith nad diben bandio yw labelu ysgolion, gan enwi a beirniadu, nac ychwaith greu tabl cynghrair a fydd yn achosi rhwyg rhwng ysgolion.
  • Diben bandio yw grwpio ysgolion ar sail gwahanol ffactorau er mwyn pennu blaenoriaethau ar gyfer gwahanol mathau o gymorth a phennu’r rhai y gall y sector ddysgu ohonyn nhw.
  • Yr elfen bwysicaf o’r system fandio fydd y fframwaith o herio a chefnogi a gaiff ei ddatblygu dros amser i gyd-fynd â phob band.
  • Trwy’r bandiau bydd cefnogaeth, her ac ymyrraeth yn cael eu darparu mewn modd mwy safonol a thryloyw.
  • Mater i awdurdodau lleol a chonsortia fydd cytuno ar sut yn union y dylid defnyddio’r bandiau er mwyn helpu i dargedu cymorth a chodi safonau i bawb.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am fandio ysgolion yna cysylltwch â SSDD@cymru.gsi.gov.uk