Skip to content

Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Er bod yr enw ychydig yn gamarweiniol bellach, cyflwynwyd CYBLD yn wreiddiol i gymryd lle'r casgliad STATS1 cyfunol ar gyfer pob ysgol a gynhelir.

Roedd y casgliad a wnaed bob mis Ionawr. Mae'r enw 'CYBLD' wedi'i gadw er mwyn disgrifio'r casgliadau statudol o wybodaeth am ysgolion ynghyd â manylion, nodweddion a chyflawniadau disgyblion mewn perthynas â'r cwricwlwm. Mae'r prif gasgliad yn dal i gael ei gynnal ym mis Ionawr ar gyfer ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd, ac arbennig.

Yn ogystal, mae yna 2 gasgliad arall, yn nhymor yr hydref a thymor yr haf, ar gyfer ysgolion sy'n darparu addysg ôl-16. Defnyddir y data Ôl-16, gan gynnwys data cwrs ar gyfer pob disgybl, gan grŵp Dysgu Gydol Oes a Sgiliau y Cynulliad (ELWa cynt) er mwyn hysbysu'r System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf yn unig, bu modd i'r Cynulliad a'r awdurdodau lleol nodi dros 500 o gofnodion lluosog ar gyfer disgyblion, diolch i'r ffaith bod y data'n fwy cywir. Mae hyn yn sicrhau bod arian yn cael ei ddosbarthu mewn ffordd decach i'r ardaloedd lle mae angen mwyaf amdano. Mae ehangder ac ansawdd gwell data CYBLD o gymorth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wrth iddo wneud penderfyniadau ynglŷn â pholisïau.

Cwestiynau: Dylid anfon pob cwestiwn ynglŷn â CYBLD at: PLASC@wales.gsi.gov.uk

Os oes gennych gwestiwn am gynnwys y dudalen hon, e-bostiwch IMS@wales.gsi.gov.uk