Skip to content

DEWi - Menter Cyfnewid Data Cymru

Datblygwyd DEWi i gynnig cyfleuster trosglwyddo diogel penodol i Gymru i`w ddefnyddio gan ysgolion, Awdurdodau Addysg Lleol (ALlau) a sefydliadau canolog.

Ni fydd DEWi yn cymryd lle Ysgol i Ysgol (s2s) ar gyfer trosglwyddo Ffeiliau Trosglwyddo Cyffredin – dylai defnyddwyr barhau i ddefnyddio s2s ar gyfer Ffeiliau Trosglwyddo Cyffredin pan fydd disgyblion yn symud ysgol.

Bydd cyhoeddiad cyntaf DEWi yn cynnig ymarferoldeb ar gyfer trosglwyddo ffeiliau Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a ffeiliau generig rhwng:

  • Ysgolion a`u ALl (unffordd);
  • ALlau a`r Cynulliad (dwyffordd).

Datblygir DEWi o dan gontract uniongyrchol i`r Cynulliad, gan ei gwneud yn haws i ni ymateb i unrhyw faterion sy`n codi. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn gwella`r system i ymdopi â chyfnewidfeydd data eraill.

Mae DEWi yn system gwbl ddwyieithog.

Cynnwys y wefan:-
  • Arweiniad ar gyfer Ysgolion sy`n defnyddio DEWi i drosglwyddo CYBLD i`w ALl;
  • Arweiniad ar gyfer Ysgolion sy`n defnyddio DEWi i drosglwyddo CYBLD i`r Cynulliad ac sy`n cael adborth gan y Cynulliad;
  • Holi ac Ateb DEWi.

Ar gyfer cymorth â mewngofnodi ar gyfer ymholiadau enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch â ni yn DEWi@Wales.gsi.gov.uk.