Skip to content

Rhif Dysgwr Unigryw/Gwasanaeth Cofnodion Dysgu

Dolenni perthnasol

Mae eich Rhif Unigryw'r Dysgwr (RhUD) am oes, yn union fel eich rhif Yswiriant Gwladol ond ei fod yn ymwneud â'ch addysg.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Yn y pen draw bydd defnyddio RhUD mewn ysgolion yn helpu i leihau'r gwaith gweinyddol sydd ei angen ar gyfer arholiadau.

Bydd hefyd yn cynorthwyo ysgolion a cholegau gan ddarparu ffordd o gasglu gwybodaeth am gyrchfannau dysgwyr ar ôl iddynt adael.

Ar yr amod bod y dysgwr wedi cytuno i rannu ei Gofnod Dysgwr Cymru (CDC), bydd RhUD yn caniatáu i'r data gael ei gasglu'n haws ar-lein. Bydd CDC pob dysgwr yn cynnwys cymwysterau ysgol wedi'u gwirio ac mae ganddo'r potensial i gyflymu'r broses o wneud cais a chael mynediad i addysg bellach.

Yn ogystal, gall CDC helpu'r dysgwr a'r ymgynghorydd gyrfaoedd i gynllunio a theilwra cam nesaf y dysgwr mewn addysg.