Skip to content

Codi Safonau a Mynd i'r Afael â Llwyth Gwaith

Roedd y Cytundeb Cenedlaethol: Codi Safonau a Mynd i'r Afael â Llwyth Gwaith yn arwyddo dull newydd o ymateb i'r heriau sy'n wynebu ysgolion. Roedd y sawl a'i llofnododd yn addo cydweithredu i ddarparu cynllun gweithredu uchelgeisiol, a hynny'n seiliedig ar newidiadau statudol i amodau gwasanaeth athrawon a phenaethiaid ac i gyfrifoldebau llywodraethwyr.

Llywodraeth y Cynulliad oedd un o’r cyrff a lofnododd y Cytundeb ac yn aelod o Grŵp Monitro Cytundeb y Gweithlu (WAMG). Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chonsortia yng Nghymru i gefnogi ysgolion wrth iddynt weithredu'r newidiadau angenrheidiol.  

Mae amrywiaeth o ddeunyddiau a gwybodaeth ganllaw allweddol wedi'i datblygu ers 2003, ac mae'r rhain yn parhau i roi cymorth gwerthfawr i ysgolion wrth iddynt wella a mireinio’u strategaethau ailfodelu i sicrhau eu bod yn parhau’n gadarn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.  

Ategir y deunyddiau cyfarwyddyd hyn gan amrywiaeth o astudiaethau achos sy'n disgrifio rhai o'r strategaethau ailfodelu y mae ysgolion yng Nghymru eisoes yn eu gweithredu.   Rydym yn gobeithio ychwanegu at y rhain wrth inni barhau i rannu profiadau rhwng ysgolion.

Mae modd gweld yr holl ddeunyddiau cyfarwyddyd drwy’r ddewislen ar ochr chwith y ddalen hon.