Skip to content

Rheoli Newid

Addawodd y Cytundeb Cenedlaethol Raglen Rheoli Newid genedlaethol i helpu ysgolion i ymateb i ofynion y Cytundeb. Mae Cydgysylltwyr Newid Awdurdodau Lleol wedi hyrwyddo'r rhaglen hon ar lefel leol, gan gydweithio â grwpiau o ysgolion a hefyd ag ysgolion unigol.

'Ailfodelu' yw'r term a ddefnyddir yn eang i ddisgrifio'r broses y mae angen i bob ysgol fynd drwyddi er mwyn nodi'r amrywiaeth o strategaethau sy'n ei galluogi i gyflawni gofynion y Cytundeb yn y ffordd orau.  Mae'n bwysig bod y broses hon yn drwyadl ac yr ailedrychir yn rheolaidd arni i sicrhau bod y strategaethau a ddewisir yn gynaliadwy yn y tymor hir ac yn parhau i ddiwallu anghenion penodol ysgol.

Mae'r adnoddau rheoli newid sydd wedi'u cynnwys ar y CD hwn wedi'u grwpio i'r categorïau canlynol:

  • Adnoddau - mae'r rhain yn mynd i'r afael ag elfennau neu themâu penodol o'r Cytundeb ac yn helpu ysgolion i'w gweithredu. Maent yn cynnwys yr adnoddau canlynol:
    • Pecyn Adnoddau Cyflenwi
    • Pecyn Adnoddau CPA
    • Pecyn Adnoddau Goruchwylwyr Arholiadau
    • Penaethiaid a'r Cytundeb Cenedlaethol
    • Pecyn Adnoddau ar gyfer Llywodraethwyr yng Nghymru
  • Ailfodelu Offer a Thechnegau - sy'n cynnwys cyfres o gyflwyniadau ar sleidiau, gan roi canllawiau ymarferol i ysgolion ar weithio drwy'r broses rheoli newid.
  • Astudiaethau Achos mewn Ysgolion - Darperir nifer fawr o astudiaethau achos o ysgolion ledled Cymru. Mae'r rhain yn dangos y dulliau ailfodelu a fabwysiadwyd gan ysgolion unigol wrth fynd i'r afael ag elfennau penodol o'r Cytundeb.
  • Dylai ysgolion gysylltu â’u hawdurdod lleol i gael cyfarwyddyd pellach ar ailfodelu a ffyrdd o reoli newid i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Cytundeb Cenedlaethol.