Skip to content

Y Cytundeb Cenedlaethol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae "Codi Safonau a Mynd i'r Afael â Llwyth Gwaith: Cytundeb Cenedlaethol" yn gytundeb hanesyddol a lofnodwyd gan y Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau gweithluoedd ysgolion ym mis Ionawr 2003.

Bwriad y Cytundeb oedd helpu penaethiaid, athrawon a staff cymorth ysgolion i gyflawni'r heriau oedd o'u blaen. Roedd y sawl a'i llofnodai yn addo cydweithredu gyda'r nod o helpu pob ysgol i godi safonau a mynd i'r afael â'r llwyth gwaith ac mae'n berthnasol i Gymru a Lloegr.

Mae'r Cytundeb yn cynnwys cynllun saith pwynt er mwyn cyrraedd ei nodau, sy'n cynnwys:

  1. Lleihau nifer oriau gwaith athrawon yn gyffredinol, a hynny'n gynyddol
  2. Newid contractau athrawon i sicrhau bod y canlynol yn wir am bob athro, gan gynnwys penaethiaid:
    • Ddim yn ymgymryd â thasgau gweinyddol a chlerigol fel mater o drefn
    • Â chydbwysedd gwaith/bywyd rhesymol
    • Â baich llai i gyflenwi ar ran cydweithwyr absennol
    • Ag amser wedi'i neilltuo ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu o fewn y diwrnod ysgol
    • Ag amser rhesymol wedi'i ddyrannu'n benodol i ddelio â chyfrifoldebau arwain a rheoli (gan gynnwys amser penodedig ar gyfer penaethiaid i ddelio â chyfrifoldebau arwain a rheoli)
  3. Mynd i'r afael yn unfryd â phrosesau biwrocrataidd a gwaith papur diangen athrawon a phenaethiaid, gan gynnwys sefydlu Panel Cynghori ar Lwyth Gwaith Ysgolion yng Nghymru (a'r Uned Adolygu Gweithredu yn Lloegr).
  4. Diwygio rolau staff cymorth i helpu athrawon a chefnogi disgyblion gan gynnwys cyflwyno cynorthwywyr gweinyddol personol, goruchwylwyr cyflenwi a chynorthwywyr addysgu lefel uwch.
  5. Recriwtio rheolwyr newydd, gan gynnwys rheolwyr busnes a phersonél, ac eraill o'r tu allan i faes addysg lle mae ganddynt y profiad i gyfrannu'n effeithiol at dimau arwain ysgolion.
  6. Adnoddau ychwanegol a rhaglenni "rheoli newid" cenedlaethol i helpu arweinwyr ysgol i gyflawni'r diwygiadau angenrheidiol i'r proffesiwn addysgu ac ailstrwythuro'r gweithlu ysgol.
  7. Monitro cynnydd Llofnodwyr y Cytundeb o ran ei weithredu.

Mae'r mesurau uchod yn seiliedig ar nifer o newidiadau i'r contract sydd wedi'u gweithredu fesul cam gan ddechrau ym mis Medi 2004. Mae mwy o fanylion am y newidiadau i'r contract a'r ffordd y'u gweithredwyd fesul cam i'w gweld yn Adran 4: Newidiadau i'r Contract.