Skip to content

Cyfranogiad Disgyblion / Llais

Dolenni perthnasol

Dathliad o’r ymagwedd oleuedig sydd gennym ni erbyn hyn at gyfranogiad a chynhwysiad disgyblion yw’r casgliad hwn o enghreifftiau.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn pennu hawl plant a phobl ifanc i fynegi barn ac i'r farn honno gael ei hystyried mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n effeithio arnynt.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi mabwysiadu'r Confensiwn yn ffurfiol fel sail i’w holl waith gyda phlant a phobl ifanc.

Pwysleisiwyd yr ymrwymiad hwn yn ‘Gweithredu’r Hawliau’ 2004, ac yn fwy diweddar yn y Canllawiau Partneriaeth a Chynllunio o dan Ddeddf Plant 2004.
 
Y mae Cynllun Gweithredu CCUHP ar gyfer Cymru ‘Gwneud Pethau’n Iawn’ a lanswyd yn ddiweddar yn pennu sut yr ydym ni a’n partneriaid am weithredu er mwyn cryfhau cyfranogiad a chynyddu cyfleoedd i holl blant a phobl ifainc Cymru i gymryd rhan mewn penderfyniadau.

Cynghorau Ysgolion (Cymru)

Gosododd Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru), 2005 ofyniad ar bob ysgol a gynhelir yng Nghymru i gael cyngor ysgol. Maent yn sicrhau bod llais disgyblion yn cael ei gynrychioli wrth ddatblygu polisïau a gweithdrefnau ysgolion.
 
Mae cyfranogiad yng nghyd-destun ysgol yn llawer ehangach na'r cyngor ysgol.  Dylai ysgolion geisio datblygu modelau cyfannol fel y caiff pob disgybl gyfle i gyfranogi yn y broses o wneud penderfyniadau mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dylai hyn gynnwys gwaith gyda'r Uwch Dîm Rheoli a Llywodraethwyr i weithredu ac adolygu polisïau ysgol, y cyfle i weithredu fel aelod o’r cyngor ysgol a grwpiau cynrychiadol eraill (e.e. Ysgolion Iach ac Eco-Sgolion) a chefnogi ac addysgu cyfoedion.
 
Mae ymchwil ac astudiaethau achos yn awgrymu bod datblygu cyfranogiad ymhlith plant a phobl ifanc yn fanteisiol i unigolion, sefydliadau a chymunedau. Mae gan ddisgyblion sy'n cyfranogi yn y broses o wneud  penderfyniadau fwy o hunan-barch a chymhelliant. Maent hefyd yn meithrin sgiliau personol, cymdeithasol a threfnu pwysig, ac yn dod yn gyfarwydd â phrosesau grŵp a phrosesau democrataidd.

Ar lefel sefydliadol, mae cyfranogiad disgyblion mewn penderfyniadau yn arwain at well perthynas rhyngddynt a'i gilydd, polisïau mwy perthnasol ac effeithiol a gwell dysgu.  Yn y sefyllfaoedd gorau, mae disgyblion ac oedolion yn cydweithio fel partneriaid i sicrhau bod eu hysgol yn darparu'r amgylchedd dysgu gorau posibl i bawb.  Mae gan ddisgyblion ran bwysig i'w chwarae i helpu eu hysgol i wella ym mhob agwedd ar fywyd ysgol.

Prosiect Cyfranogiad Disgyblion

Y mae ein Prosiect Cyfranogiad Disgyblion yn helpu ysgolion i alluogi plant a phobl ifainc i gael llais ac i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Pennwyd hyn yn Erthygl 12 y CCUHP. Mae’r prosiect yn anelu at wneud hyn fel a ganlyn:

  • cynhyrchu gwybodaeth, canllawiau a deunyddiau ar gyfer plant, pobl ifainc a’r oedolion sydd yn eu cefnogi. Y prif ffynhonnell gwybodaeth yw gwefan Llais Disgyblion Cymru (www.llaisdisgyblioncymru.org.uk) (dolen allanol)

  • gweithio gydag eraill yn fewnol yn y Llywodraeth ac yn allanol i sicrhau bod cyfranogiad disgyblion yn ganolog i ddatblygiad polisïau ac agweddau addysgol allweddol, yn enwedig y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion

  • cefnogi a datblygu rhwydwaith o bobl broffesiynol mewn awdurdodau lleol ledled Cymru, sy’n gallu hyrwyddo a chefnogi datblygiad modelau effeithiol ar gyfer cyfranogiad disgyblion ar lefel leol

  • datblygu a dosbarthu deunyddiau hyfforddi fel bod oedolion allweddol – yn enwedig athrawon a llywodraethwyr – yn deall beth yw cyfranogiad disgyblion effeithiol, sut y mae cyfranogiad yn cyfrannu at les plant a phobl ifainc a sut y gallant ddatbylgu hyn yn eu hygolion.
     

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Gangen Hawliau (RightsandEntitlementsBranch@Wales.gsi.gov.uk) neu edrychwch ar wefan Llais Disgyblion Cymru (www.llaisdisgyblioncymru.org.uk)  (dolen allanol)