Skip to content

Hyfforddiant

Caiff prentisiaethau eu llunio gyda chymorth cyflogwyr yn y diwydiannnau perthnasol. Maent yn cynnig rhaglen strwythuredig sy'n fodd i feithrin y sgiliau y mae eu hangen ar brentisiaid i wneud eu gwaith yn dda. Mae targedau a ffyrdd o wneud yn siŵr bod y cyflogwr yn rhoi cymorth iddynt a'u bod yn datblygu.

Fel gweithwyr sy'n cael eu cyflogi, byddant yn cael hyfforddiant yng ngweithle'r cyflogwr am y rhan fwyaf o'u prentisiaeth. Mae prentisiaid hefyd yn cael hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith mewn coleg lleol neu gyda darparwr hyfforddiant seiliedig ar waith – gan astudio i ennill cymwysterau sy'n seiliedig ar wybodaeth. Bydd yr holl bethau y byddant yn eu hastudio yn ddefnyddiol iddynt yn eu swydd ac yn eu helpu i lwyddo yn eu gyrfa yn y dyfodol.

Mae faint o amser y maent yn ei dreulio'n astudio yn dibynnu ar y brentisiaeth. Gallai fod yn unrhyw beth o un diwrnod bob yn ail bythefnos i ddau ddiwrnod yr wythnos.