Skip to content

Y Prentis

Dolenni perthnasol

Yr ail o chwe stori sy’n dangos sut mae polisïau Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl go iawn yng Nghymru – Prentisiaethau

Yn yr adran hon, gallwch ddod o hyd i bopeth sydd angen ei wybod am Brentisiaethau, o’r cymwysterau a’r meysydd y gallwch weithio ynddynt i’r gwahanol lefelau sydd ar gael.

Beth yw Prentisiaethau?

Mae Prentisiaethau yng Nghymru yn ffordd o ennill cyflog a gweithio ochr yn ochr â staff profiadol i ennill sgiliau sy’n benodol i swydd.  Ar y cyd â hyfforddiant ychwanegol gan ddarparwr hyfforddiant partner, a hynny ar ffurf diwrnod astudio fel arfer, byddwch yn gweithio tuag at gymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.

Gall unrhyw un sydd dros 16 oed, sy’n byw yng Nghymru ac nad yw mewn addysg amser llawn wneud cais am Brentisiaeth.  Felly p’un a ydych newydd adael yr ysgol, wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd, neu’n dymuno dechrau ar yrfa newydd, mae yna Brentisiaethau sy’n addas ar gyfer eich graddau a’ch profiad chi.  Felly pam na edrychwch i weld a oes yna gwrs sy’n addas i chi!  

Mae cyflogwyr ar hyd a lled y wlad yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi Prentisiaethau am eu bod yn dangos bod unigolion wedi’u hyfforddi yn y sgiliau angenrheidiol.

Yn gyffredinol, gall Prentisiaethau gymryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd, yn dibynnu ar lefel y Brentisiaeth, gallu’r prentis, a’r sector diwydiant.   Yr isafswm cyflog yw £2.60 yr awr, ond mae llawer o brentisiaid yn ennill tipyn mwy na hynny.

Sut byddwch chi’n elwa ar brentisiaethau?

Gallwch ddysgu wrth ichi weithio: Bydd Prentisiaeth yn rhoi sgiliau penodol i’r swydd ichi, yn ogystal â gwybodaeth a chymwysterau proffesiynol i’ch rhoi chi ar flaen y gad.  Byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster seiliedig ar waith lefel 2 neu’n uwch o’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF).

Gallwch ennill cyflog wrth ichi ddysgu:  Fel Prentis, byddwch yn gweithio i gyflogwr go iawn ac yn gwneud gwaith go iawn. Felly byddwch yn cael cyflog rheolaidd o’r cychwyn cyntaf, gyda gwyliau am dâl, yr un buddion â gweithwyr eraill, a hyfforddiant ychwanegol gyda’ch darparwr hyfforddiant dewisedig.  

Wrth i’ch sgiliau ddatblygu, bydd eich tâl yn cynyddu i adlewyrchu hynny.  Efallai y cewch arian ychwanegol hefyd i dalu am lyfrau, dillad neu offer hanfodol, neu i helpu gydag anabledd.

Manteision Prentisiaeth  

Gall ennill cymhwyster wrth weithio olygu hefyd: 

  1. Eich bod yn gweithio’n well ac yn fwy effeithiol.
  2. Eich bod yn gallu symud i swyddi newydd a gwell. 
  3. Eich bod yn cael cyflog gwell.
  4. Eich bod yn cael profiad o heriau newydd a gwahanol. 
  5. Bod eich sgiliau a’ch gwybodaeth bresennol yn cael eu cydnabod – gallai hynny eich helpu i ennill cymhwyster mewn llai o amser. 
  6. Eich bod yn dysgu wrth eich pwysau ac yn cael cefnogaeth pan fo’i hangen. 
  7. Gwell sicrwydd swydd. 
  8. Eich bod yn ennill sgiliau a gwybodaeth y gellir eu defnyddio mewn ystod o swyddi a diwydiannau.

Fy hyfforddiant

Pan fyddwch yn cychwyn ar Brentisiaeth yng Nghymru, rhoddir targedau ichi a chaiff eich cynnydd ei fonitro yn rheolaidd i sicrhau bod eich cyflogwr yn eich cefnogi a’ch bod yn gwneud cynnydd.

Fel gweithiwr, byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser ym myd gwaith am fod y rhan fwyaf o’r hyfforddiant yn digwydd yn y swydd. Fel arfer, darperir gweddill yr hyfforddiant mewn coleg lleol neu sefydliad hyfforddi arbenigol. Gallwch gyflawni’r hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith hwn ar ffurf diwrnod astudio, neu dros nifer o ddiwrnodau mewn bloc.

Bydd yr amser y byddwch yn ei dreulio yn dibynnu ar eich Prentisiaeth.  Gallai amrywio rhwng diwrnod bob pythefnos i ddeuddydd yr wythnos.

Y camau nesaf

Gallwch weld pa fath o raglenni prentisiaeth sydd ar gael ar dudalennau perthnasol y wefan hon.

Gallwch chwilio am brentisiaeth drwy’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau.

Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad dwyieithog a diduedd yn rhad ac am ddim i bobl o bob oedran – gan ddod ag addysg a busnes ynghyd.  

Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn darparu ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau, fel budd-daliadau, benthyciadau a grantiau, yn ogystal â help i ddod o hyd i swydd.

Gallwch gysylltu â nhw ar 0800 100 900 neu ewch i wefan Gyrfa Cymru.