Skip to content

Y Rhaglen Recriwtiaid Newydd

Dolenni perthnasol

Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae'r Rhaglen Recriwtiaid Newydd yn rhaglen Cymru gyfan sy'n rhoi cymorth ariannol i gyflogwyr sy'n cynnig rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel i recriwtio a hyfforddi prentisiaid ifanc ychwanegol (16-24 oed).

Beth yn union yw'r Rhaglen Recriwtiaid Newydd?

Bydd cymorth penodol ar gael i greu cyfleoedd ychwanegol i bobl ifanc gael manteisio ar brentisiaethau o ansawdd. Gall y rhaglen fod yn fanteisiol i:

  • gyflogwyr mawr sydd eisoes yn cynnig rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel sy'n gallu ymestyn eu rhaglenni i gynnig lle i fwy o ddysgwyr
  • cyflogwyr bach a chanolig sy'n gweithio'n unigol neu ar y cyd i gynnig rhagor o brentisiaethau lle mae angen cynnal gweithlu medrus i ymbaratoi ar gyfer yr adferiad economaidd.

Meini prawf y Rhaglen Recriwtiaid Newydd

Mae'n rhaid i bob cyflogwr:

  • allu cynnig prentisiaeth(au) ychwanegol amser llawn, hy lleiafswm o 25 awr gan gynnwys amser gyda’r darparwr 
  • talu’r isafswm cyflog priodol ar gyfer prentisiaid (neu fodloni unrhyw reoliad Isafswm Cyflog Cenedlaethol arall a allai fod yn berthnasol) 
  • gallu dangos tystiolaeth o dalu cyflog i’r dysgwr gyda chopïau o slipiau cyflog neu ddatganiadau banc wedi’u hardystio.

Heb y dystiolaeth hon, ni allwn gynnig cymorth.

Mae’n rhaid bod pob dysgwr:

  • rhwng 16 a 24 oed adeg y cais
  • bod yn byw a/neu yn gweithio yng Nghymru
  • bod wedi ei gyflogi gan yr ymgeisydd am ddim mwy na 10 wythnos adeg y cais 
  • bod wedi cofrestru ar fframwaith prentisiaeth lefel 2 neu lefel 3 gyda darparwr dysgu seiliedig ar waith sydd â chontract â Llywodraeth Cymru.

Beth yw'r cymorth ariannol?

Telir cymhorthdal cyflog uwch o £3,900 dros 52 wythnos i'r cyflogwr, yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd ac ar fodloni gofynion tystiolaethol (ddim yn gymwys i'r sector cyhoeddus). Telir y cymhorthdal cyflog mewn rhandaliadau o £100 ar gyfer 26 wythnos a £50 ar gyfer y 26 wythnos sy'n weddill.

I gael rhagor o wybodaeth:

Cysylltwch â’ch Darparwr Dysgu Seiliedig ar Waith lleol neu Gyrfa Cymru ar 0800 100 900.