Skip to content

Buddsoddwyr mewn Pobl (BmP)

Buddsoddwyr Mewn Pobl

Gwnewch yn siŵr eich bod yn elwa o weithio gyda Buddsoddwyr mewn Pobl.

Erbyn heddiw mae dros draean o gyflogwyr y DU yn manteisio ar Buddsoddwyr mewn Pobl, gan fod eu busnesau’n elwa’n ymarferol o hynny:

  • Mae gwasanaeth a pherfformiad eu busnes yn gwella
  • Mae ffocws a strwythur i’w cael wrth fynd trwy newidiadau trefniadol
  • Mae’r gweithwyr yn cymryd mwy o ran ac mae eu perfformiad yn gwella
  • Mae’r busnes yn datblygu ac yn tyfu
  • Mae’r buddsoddiad yn dod â manteision trwy wella effeithlonrwydd a’r gallu i wneud elw.

Mae’n haws nag a dybiwch - a dim gwaith papur

Nid oes angen ticio bocsys a llenwi ffurflenni. Yn hytrach, mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn canolbwyntio ar ganlyniadau, trwy sicrhau bod gan bawb yr wybodaeth, y sgiliau a’r agwedd y mae eu hangen i gyflawni amcanion eich busnes.

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn arbenigo mewn trawsnewid perfformiad busnes trwy ei bobl, gan ddefnyddio dulliau sydd wedi’u teilwra i gyflawni eich amcanion penodol

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn teilwra ei ddull er mwyn canolbwyntio ar amcanion eich busnes unigol chi er mwyn gwella ei berfformiad.

Yn ogystal â gweithio gyda chi i weld y canlyniadau yr ydych yn dymuno eu gweld, bydd arbenigwyr Buddsoddwyr mewn Pobl yno fel cyfaill beirniadol i’ch helpu i sicrhau bod eich busnes yn gwella’n barhaus.

Byddwch yn uchelgeisiol

Er mwyn ymateb i’r heriau sy’n eich wynebu, mae Buddsoddwyr mewn Pobl wedi datblygu dull o weithio sy’n ymateb i anghenion unigol eich busnes. Mae hynny’n golygu y gallwch edrych yn fanwl ar y meysydd o fewn y fframwaith sydd fwyaf perthnasol i’ch busnes chi.

Mae’r dull gweithredu pwrpasol a newydd yn hynod o ddefnyddiol, gan ei fod yn eich galluogi i ymateb i broblemau sy’n codi oherwydd yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni.

Proses ar gyfer canolbwyntio a gwella yw hon

Mae fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl yn seiliedig ar dair prif egwyddor er mwyn ichi allu mynd at wraidd problemau a phennu blaenoriaethau, gan wella perfformiad eich busnes trwy eich bobl.

Cynllunio - Datblygu strategaethau i wella perfformiad
Gwneud - Cymryd camau i wella perfformiad
Adolygu - Gwerthuso a gwella perfformiad

Yn pwysleisio ar eich:

  • Strategaeth busnes
  • Strategaeth dysgu a datblygu
  • Strategaeth rheoli pobl
  • Strategaeth arwain a rheoli
  • Effeithiolrwydd dulliau rheoli
  • Cydnabod a gwobrwyo
  • Sbarduno ymroddiad a grymuso
  • Dysgu a datblygu
  • Mesuriadau perfformiad
  • Gwella parhaus.

Sut y gallai Buddsoddwyr mewn Pobl Cymru eich helpu?

Mae ein Arbenigwyr Buddsoddwyr mewn Pobl wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ac i wneud yn siŵr eich bod yn gweld y canlyniadau gorau posibl:

  • byddant yn gweithio gyda chi er mwyn deall amcanion eich busnes a nodi’r meysydd blaenoriaeth lle gallai Buddsoddwyr mewn Pobl gynnig cymorth
  • wedyn, er mwyn gwella perfformiad eich busnes, maent yn eich helpu i lunio llwybr datblygu, gan dynnu ar y rhannau yn fframwaith estynedig Buddsoddwyr mewn Pobl sydd fwyaf perthnasol i’r amcanion hynny
  • cewch adborth pwrpasol ar y materion sydd fwyaf perthnasol i chi ac amcanion eich busnes
  • mae’n bosibl y gallai arian fod ar gael gan Lywodraeth Cymru ichi weithio gydag Arbenigwr
  • hefyd, mae’n bosibl y gallai Llywodraeth Cymru roi arian tuag at gost eich asesiad cyntaf. Mae’r asesiad yn rhoi cyfle i aseswr gwrthrychol profiadol gynnig barn allanol a allai arwain at achrediad ffurfiol gan Fuddsoddwyr mewn Pobl.

Sut mae dechrau?

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu inni gysylltu â chi, e-bostiwch investorsinpeoplewales@wales.gsi.gov.uk

neu ffoniwch:
Buddsoddwyr mewn Pobl Cymru 0300 062 5536

Mae rhagor o gymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan Buddsoddwyr mewn Pobl.

Mewn drycin neu hindda…
Buddsoddwyr mewn Pobl