Skip to content

Cwestiynau cyffredin

Dolenni perthnasol

Bwriad y cynllun Sgiliau Twf Cymru yw cynorthwyo cwmnïau sydd wrthi’n cynllunio i ehangu eu gweithlu ac sydd am ddod o hyd i gyllid i sicrhau hyfforddiant er mwyn gwireddu hyn.

Yma, gellir dod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am Dwf Swyddi Cymru a gofyn eu cwestiwn eu hunain os nad yw wedi'i restru.

C1. A ydych wedi adeiladu ar arferion da Cronfa Swyddi'r Dyfodol?

Rydym wedi adeiladu ar arferion da Cronfa Swyddi'r Dyfodol, ond bydd y rhaglen yn ymateb yn benodol i'r broblem o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Fodd bynnag, yn wahanol i Gronfa Swyddi'r Dyfodol a ganolbwyntiai ar greu cyfleoedd profiad gwaith yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, bydd Twf Swyddi Cymru yn creu'r rhan fwyaf o'r swyddi yn y sector preifat.

C2. Sut bydd rhaglen Twf Swyddi Cymru yn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â rhaglenni presennol yn hytrach na'u dyblygu?

Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru wedi'i datblygu i integreiddio a chysylltu'n llwyr â rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau presennol Llywodraeth Cymru. Bydd yn rhoi pecyn cymorth uwch i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru o'r cychwyn cyntaf er mwyn helpu unigolion i aros mewn swydd barhaol neu symud ymlaen i swydd o'r fath, neu brentisiaeth lle y bo'n briodol.

Bydd yn llwybr dilyniant o'r rhaglenni Cyflogadwyedd (er enghraifft, Camau at Waith a Rhaglenni Hyfforddeiaethau). Bydd symud ymlaen o Dwf Swyddi Cymru drwy'r Rhaglen Recriwtiaid Ifanc yn opsiwn pan fydd cyflogwyr yn fodlon recriwtio prentisiaid ychwanegol.

Bydd yn gwbl gyson â rhaglenni'r Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau (dolen allanol), gan gynnwys y Rhaglen Waith (dolen allanol) a Dewis Gwaith (dolen allanol). Bydd pobl ifanc yn gymwys i wneud cais am gyfleoedd Twf Swyddi Cymru hyd nes eu bod yn gymwys i ddilyn y Rhaglen Waith a Dewis Gwaith.

Byddwn yn gweithio gyda GO Wales (dolen allanol) i roi cymorth i raddedigion ddod o hyd i waith drwy ychwanegu gwerth at yr hyn a ddarperir ar hyn o bryd drwy greu mwy o gyfleoedd profiad gwaith i raddedigion di-waith.

Byddwn yn rhoi cymorth i bobl ifanc ddod yn hunangyflogedig ac yn helpu microfusnesau i dyfu, gan wella ac adeiladu ar y pecynnau cymorth busnes presennol a'r rhai sydd wedi'u cynllunio i'w darparu drwy'r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

Yn ogystal, rydym yn ystyried sut y gellir achub ar gyfleoedd eraill i integreiddio â rhaglenni eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Dechrau'n Deg a Genesis, a helpu i'w rhoi ar waith.  

C3. Pam bod y rhan fwyaf o'r cyfleoedd swyddi yn cael eu creu yn y sector preifat?

O ystyried y cyfyngiadau y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu, mae'n debyg mai yn y sector preifat fydd y rhan fwyaf o'r cyfleoedd swyddi parhaol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Byddwn yn targedu busnesau twf drwy gysylltiadau cryf â rhaglen Sgiliau Twf Cymru, yn ogystal â gweithio’n agos gyda chwmnïau angori a chwmnïau o bwys rhanbarthol i achub ar gyfleoedd recriwtio a hwyluso'r gwaith o ymgysylltu â phobl ifanc sy'n chwilio am waith.

C4. Sut bydd y rhaglen yn rhoi cymorth i ficrofusnesau?

Bydd Twf Swyddi Cymru yn darparu gwasanaeth cydgysylltiedig i ficrofusnesau sy'n recriwtio un unigolyn neu fwy sy'n gymwys i gael cymorth. At ddibenion y gwasanaeth hwn, microfusnes yw busnes sy'n cyflogi naw person neu lai.

Diben y gwasanaeth yw galluogi a helpu microfusnesau i recriwtio, datblygu a bod mewn sefyllfa well i gadw recriwtiaid newydd. Mae'r gwasanaeth wedi'i ddatblygu yn unol â chanllawiau presennol ond caiff ei adolygu ar sail adolygiad o'r cymorth i ficrofusnesau ac argymhellion y grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ficrofusnesau yn y dyfodol.

C5. Sut bydd y rhaglen yn rhoi cymorth i bobl ifanc ddod yn hunangyflogedig?

Mae'r cymorth i helpu pobl ifanc i ddod yn hunangyflogedig wedi'i fodelu ar y Fwrsariaeth Cychwyn Busnes bresennol i Raddedigion, lle bo 60 o raddedigion, bob blwyddyn, yn cael cymorth i sefydlu busnes gyda bwrsariaeth refeniw o £6,000.

C6. Sut gall y sector cyhoeddus gymryd rhan?

Bydd gan y sector cyhoeddus rôl i'w chwarae o hyd a gall greu cyfleoedd swyddi i bobl ifanc, yn amodol ar fodloni'r meini prawf angenrheidiol ar ychwanegedd. Caiff hwn ei gwblhau drwy'r darparwyr dysgu seiliedig ar waith.

Yn ogystal, gallai'r sector cyhoeddus greu cyfleoedd swyddi ar gyfer pobl ifanc mwy difreintiedig drwy ddarparu mwy o gyfleoedd swyddi â chefnogaeth drwy weithio o dan elfen sector gwirfoddol y rhaglen.

C7. Pa fath o gyfleoedd swyddi a gaiff eu creu?

Caiff swyddi eu creu ym mhob sector gan gefnogi amrywiaeth eang o bobl ifanc, o gyfleoedd di-grefft i gyfleoedd i raddedigion. Bydd yn rhaid i bob swydd ddangos ychwanegedd.

Bydd cyfleoedd ar gael hefyd i bobl ifanc anabl a'r rheini o leiafrifoedd ethnig yn ogystal â chyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.

C8. Sut mae cyfyngiadau oedran y rhaglen yn cydymffurfio â gofynion gwahaniaethu ar sail oedran?

Cytunwyd mai rhaglen i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yw hon gan fod nifer y bobl ifanc sy'n ddi-waith yn cynyddu a gall sefyllfa'r farchnad lafur effeithio arnyn nhw yn fwy nag eraill, yn arbennig o ganlyniad i'r dirwasgiad. Mae Twf Swyddi Cymru wedi'i sefydlu i'w galluogi i gael swydd barhaol a chystadlu yn y farchnad lafur â phobl hŷn.