Skip to content

Darparwyr Twf Swyddi Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae 14 o ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ledled Cymru a fydd yn gweithredu fel Asiantau Rheoli ar gyfer rhan sector Preifat y rhaglen.

Darparwyr Twf Swyddi Cymru

Mae'r ddogfen PDF isod 'Darparwyr Twf Swyddi Cymru' yn rhestru'r darparwyr ledled Cymru. Agorwch y ddogfen, chwiliwch am ardal yr awdurdod lleol ar y chwith ac wedyn chwilio ar draws y tabl nes cyrraedd tic. Mae'r darparwr sydd ar frig y golofn a'r tic ynddi, o dan gontract i gydweithio â'r busnesau yn yr ardal honno.

Cysylltu â'r darparwyr

Mae'r ddogfen PDF isod 'Cysylltu â'r Darparwyr' yn rhoi manylion cysylltu pob un o'r darparwyr (yr Asiantau Rheoli).

Os na allwch agor y dogfennau PDF, cysylltwch â ni: JobsGrowthWales@wales.gsi.gov.uk