Skip to content

Camau at Waith

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhaglen ddysgu newydd yng Nghymru yw Camau at Waith ar gyfer dysgwyr dros 18 oed yng Nghymru.

Ei nod yw helpu oedolion di-waith i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith wrth baratoi at waith neu ddysgu pellach.

Cynigir Camau at Waith ar ddwy lefel benodol er mwyn sicrhau bod sylw yn cael ei roi i ofynion pob dysgwr unigol a'u bod yn cael eu cefnogi a'u hannog i gyflawni.  

Cynigir cyfleoedd dysgu mewn amrywiaeth o leoliadau a rhoddir ystyriaeth hefyd i'r dulliau dysgu a'r diddordebau a ffefrir.  

Bydd staff y Ganolfan Byd Gwaith hefyd yn chwarae rhan amlwg yn y gwaith o gyfeirio dysgwyr at y rhaglen Camau at Waith. Bydd disgwyl i unigolion gael gwiriad cyn-gymhwyso gyda'r Ganolfan Byd Gwaith cyn ymuno â'r rhaglen.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.