Cyrsiau preswyl
Mae cyrsiau ar y penwythnos neu gyrsiau preswyl yn wych os ydych chi eisiau ychwanegu at eich oriau dysgu. Cânt eu cynnal mewn amryw o ganolfannau drwy gydol y flwyddyn, ac yn ddefnyddiol i ddysgwyr a hoffai fynychu cyrsiau gloywi, neu a hoffai dreulio peth amser yn dysgu'r iaith mewn amgylchedd Cymraeg naturiol.
Mae'r daflen Cyrsiau Haf a Phreswyl yn daflen syml, hawdd ei deall i ddysgwyr sy'n chwilio am gwrs Cymraeg haf neu breswyl. Fe gewch yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyrsiau a gynigir gan ddarparwyr Addysg i Oedolion, yn ogystal â manylion cyswllt ar gyfer y darparwyr. Lawrlwythwch y fersiwn ddiweddaraf yma.
Lawrlwytho:
Cyrsiau haf a phreswyl Cymraeg i Oedolion 2009 [.pdf 211KB]
Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru yn Nant Gwrtheyrn, Gogledd Cymru, yw'r unig ganolfan sydd ar agor drwy'r flwyddyn ac mae'n cynnig cyrsiau preswyl dwys ar bob lefel i'r cyhoedd a'r gweithle. Am fwy o wybodaeth ewch i www.nantgwrtheyrn.org neu gallwch lawrlwytho’r llyfryn cyrsiau ar gyfer 2009 yma.
Lawrlwytho:
Cyrsiau Nant Gwrtheyrn 2009 [.pdf 913KB]
