Skip to content

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Dolenni perthnasol

Dyma ganllaw i gefnogi'r rhai hynny sydd wedi eu heffeithio gan y cyfnod o dywydd drwg.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Rhaid i safleoedd sy'n derbyn, trafod, defnyddio, trin neu'n gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid gael eu cymeradwyo o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Rhif 2) (Cymru) 2011.

Daw rheoliadau diwygiedig yr UE ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid i rym ar 4 Mawrth 2011. Mae'r Rheoliad newydd ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid (EC rhif. 1069/2009 a’r Rheoliad Gweithredu cysylltiedig EC 142/2011) yn diweddaru'r rheolau cyfredol. Mae'r cwmpas yn parhau i fod yn eang iawn ac mae'n cynnwys pob math o gynnyrch anifeiliaid gan gynnwys cig, pysgod, llaeth ac wyau nad ydynt i'w bwyta gan bobl a mathau eraill o gynnyrch anifeiliaid gan gynnwys crwyn, plu, gwlân, esgyrn, cyrn a charnau. Mae hefyd yn ymwneud â charcasau stoc trig ar ffermydd, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt y tybir eu bod wedi’u heintio.

Yng Nghymru, bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu gweinyddu a’u gorfodi gan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Rhif 2) (Cymru) 2011.

Dyma'r prif newidiadau a fydd yn dod yn sgil y rheoliadau:

  • Bydd rhai categorïau o sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn newid. Y newid pennaf yw y bydd deunyddiau a oedd yng nghategori 2, infertebrata dyfrol er enghraifft, yn cael eu symud i Gategori 3 a gallant gael eu defnyddio at rai dibenion bwydo penodol;
  • caiff yr eithriad compostio gartref ei estyn; 
  • gweithredwyr safleoedd rendro fydd yn dilysu’r safleoedd hynny, o dan oruchwyliaeth Iechyd Anifeiliaid;
  • bydd safleoedd rendro yn gallu defnyddio gwêr fel tanwydd (bydd rhaid i Iechyd Anifeiliaid gymeradwyo hyn fel safle ar wahân).

Bydd llai o gyfyngiadau ar rai sgil-gynhyrchion anifeiliaid e.e.:

  • Gall gweithgynhyrchwyr neu fanwerthwyr bwyd sy'n cynhyrchu meintiau bach o wastraff sgil-gynhyrchion anifeiliaid amrwd (h.y. llai na 20 kg yr wythnos o wastraff bwyd Categori 3 risg isel, fel cig neu bysgod amrwd) bellach gael gwared ar y gwastraff hwn y tu allan i’r mesurau rheoli sgil-gynhyrchion anifeiliaid;
  • y defnydd a wneir o rai sgil-gynhyrchion anifeiliaid e.e. llaeth tor a gwlân heb ei brosesu; 
  • defnyddio rhai sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar dir e.e. cregyn pysgod cregyn a phlisgyn wyau; 
  • gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n deillio o lawdriniaeth neu enedigaeth anifeiliaid ar ffermydd. 
  • darparu ar gyfer sefyllfa bosibl lle mae angen cadw stoc trig ar y fferm

Cofrestru

Bydd angen cofrestru sawl math o weithgarwch - gan gynnwys gwaith cludwyr sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mynwentydd anifeiliaid anwes. Bydd yr holl safleoedd sydd wedi'u cymeradwyo ar hyn o bryd yn parhau i fod yn gymeradwy pan fydd y rheoliadau gorfodi'n dod i rym. Os oes angen ichi gofrestru neu os hoffech ragor o wybodaeth ar y broses gofrestru, cysylltwch â'ch Asiantaeth Labordai Milfeddygol Iechyd Anifeiliaid (dolen allanol).

Am ganllawiau manwl ar sut y ceir defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid, ac ar yr amodau ar gyfer eu storio, eu trafod, eu cludo a’u prosesu. , ewch i wefan Asiantaeth Labordai Milfeddygol Iechyd Anifeiliaid (dolen allanol).  

I gael rhagor o wybodaeth am waredu gwastraff anifeiliaid ac anifeiliaid marw yn ddiogel, cysylltwch â'r:

Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol
Llywodraeth Cymru
Tŷ Bryn
Teras Picton
Caerfyrddin
SA31 3BS

Neu eich swyddfa Asiantaeth Labordai Milfeddygol Iechyd Anifeiliaid rhanbarthol.

Dolenni Allanol Defnyddiol