Skip to content

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Rhaid i safleoedd sy'n derbyn, trafod, defnyddio, trin neu'n gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid gael eu cymeradwyo o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Mae safleoedd o'r fath yn cynnwys gweithfeydd rendro, llosgyddion, gweithfeydd bwyd anifeiliaid anwes, gweithfeydd compostio a bionwy, gweithfeydd hanner-ffordd, tanerdai a iardiau gelanedd.

Mae'r Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (CE) 1774/2002 yn rheoli'r ffordd yr eir ati i gasglu, cludo, storio, trafod, prosesu a defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn Aelod-wladwriaethau'r UE. Mae Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 (cyswllt allanol - Saesneg yn unig) yn darparu ar gyfer cymhwyso Rheoliad yr UE yng Nghymru. Mae deddfwriaeth debyg mewn grym yn Lloegr a'r Alban.

Rhaid i safleoedd sy'n derbyn, trafod, defnyddio, trin neu'n gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid gael eu cymeradwyo o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Mae safleoedd o'r fath yn cynnwys gweithfeydd rendro, llosgyddion, gweithfeydd bwyd anifeiliaid anwes, gweithfeydd compostio a bionwy, gweithfeydd hanner-ffordd, tanerdai a iardiau gelanedd.

Mae'r adran Iechyd Anifeiliaid(gynt y Wasanaeth Milfeddygol Gwladol) yn gyfrifol am gymeradwyo/awdurdodi safleoedd Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Caiff yr arolygiadau ar gyfer argymell cymeradwyaeth safleoedd ac ar gyfer gwaith monitro arferol eu cynnal gan yr adran Iechyd Anifeiliaid.

Crwyn Anifeiliaid

Mae'n bosibl bellach, o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006, i gynhyrchwyr ddychwelyd croen anifeiliaid i'w safleoedd eu hunain ar ôl mynd ag anifail i ladd-dy.

Ond os bwriedir gwneud hynny, rhaid bodloni'r amodau canlynol:

  • Rhaid bod y cynhyrchydd wedi gwneud cais am gymeradwyaeth i redeg gweithfa hanner-ffordd ar ei safle, a rhaid bod y cais hwnnw wedi'i dderbyn, cyn y gall unrhyw symud ddigwydd
     
  • Rhaid bod y croen yn cael ei gadw er mwyn creu swmp neu er mwyn symud y croen mewn ffordd gost effeithiol i Weithfa Dechnegol lle y bydd y gwaith prosesu'n cael ei gwblhau, fel y bo'n briodol.
     
  • Rhaid symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid (croen anifeiliaid) mewn cynhwysydd nad yw'n gollwng ac sydd wedi'u orchuddio, a rhaid cael y dogfennau masnachol angenrheidiol.

I gael rhagor o wybodaeth am waredu gwastraff anifeiliaid ac anifeiliaid marw yn ddiogel, cysylltwch â'r:

Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Tŷ Bryn
Teras Picton
Caerfyrddin
SA31 3BS

Neu eich swyddfa Iechyd Anifeiliaid (gynt Wasanaeth Milfeddygol y Wlad) rhanbarthol