Skip to content

Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid ar gyfer Prydain Fawr

Dolenni perthnasol

Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
ci
Nod y Strategaeth yw gwella iechyd a lles anifeiliaid sy'n cael eu cadw ac amddiffyn y cyhoedd rhag clefydau anifeiliaid.

Lansiwyd y Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid ar gyfer Prydain Fawr ym mis Mehefin 2004. Mae'r Strategaeth ddeng mlynedd hon:

  • yn cydnabod yr angen am ddull mwy strategol o reoli amrediad eang o weithgareddau a wneir gan y Llywodraeth ac eraill; ac  
  • yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth.

Nod y Strategaeth yw gwella:

  • iechyd a lles anifeiliaid sy'n cael eu cadw; 
  • amddiffyn y cyhoedd rhag clefydau anifeiliaid; ac  
  • amddiffyn buddiannau economaidd a chymdeithasol pobl a'r amgylchedd

Mae'n cynnig gweledigaeth ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid ym Mhrydain Fawr gan ddangos lle rydym am fod yn 2014.  Mae'n her fawr i bawb a cheir yn y Strategaeth egwyddorion pwysig sy'n dangos beth sydd angen ei wneud i greu'r byd sy'n cael ei ddisgrifio yn y weledigaeth.

Grŵp Llywio Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid

Lansiwyd y Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid ar gyfer Prydain Fawr ym mis Mehefin 2004. Cafodd Grŵp Llywio'r Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid ei sefydlu ym mis Hydref ar gais y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad i oruchwylio'r gwaith o roi'r strategaeth ar waith yng Nghymru.

Cliciwch y cyswllt i'r dde o'ch sgrin i gael rhagor o wybodaeth am y Grŵp Llywio, gan gynnwys cofnodion y cyfarfodydd.

Grŵp Gweithredu ar Twbercwlosis (TB)

Fel rhan o'r broses o brif ffrydio ein dull o ymdrin â'r clefyd, mae cyfrifoldebau Grŵp Gweithredu Cymru ar TB gynt wedi'u trosglwyddo erbyn hyn i Grŵp Llywio'r Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi ymuno â'r Grŵp Llywio ar gyfer cyfarfodydd penodol am TB er mwyn sicrhau bod pob sefydliad a oedd yn cael eu cynrychioli ar Grŵp Gweithredu Cymru ar TB yn parhau i gael eu cynnwys mewn trafodaethau perthnasol ynglŷn a TB.