Skip to content

Deddf Lles Anifeiliaid 2006

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth am iechyd anifeiliaid ferm ac anwes.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Geifr
Mae'r Ddeddf yn dod â deddfwriaeth les ynghyd, sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid fferm ag anifeiliaid nad ydynt yn cael eu ffermio, ac yn ei moderneiddio, gan bod rhywfaint ohoni'n dyddio o 1911.

Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (“y Ddeddf”) yw’r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid fwyaf arwyddocaol ers yn agos i ganrif.

Gweithredwyd y Ddeddf yng Nghymru ar 27 Mawrth 2007, gan ganiatáu i Lywodraeth Cymru ystyried lles anifeiliaid am y tro cyntaf. Mae’r Ddeddf yn gosod “dyletswydd gofal” ar berchnogion a cheidwaid anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm ac anifeiliaid gwyllt mewn caethiwed. Gwneir hyn er mwyn sicrhau lles yr anifeiliaid sydd yn eu gofal.

Mae’r Ddeddf:

  • yn dwyn ynghyd ac yn moderneiddio’r ddeddfwriaeth les yn ymwneud ag anifeiliaid fferm ac anifeiliaid eraill hefyd. Cyfunwyd dros ugain darn o ddeddfwriaeth, gan symleiddio’r gyfraith i’r gorfodwyr a’r ceidwaid anifeiliaid fel ei gilydd. 
  • yn estyn y pŵer presennol i lunio is-ddeddfwriaeth i hyrwyddo lles anifeiliaid eraill yn ogystal ag anifeiliaid fferm;
  • yn atal tramgwyddwyr parhaus drwy gryfhau’r cosbau a dileu unrhyw fylchau yn y system gyfredol;
  • yn caniatáu cyhoeddi Codau Ymarfer ar gyfer anifeiliaid anwes – mecanwaith ar gyfer rhoi canllawiau ar safonau lles;
  • yn cynyddu o 12 i 16 yr oedran y mae’n gyfreithlon i blentyn brynu anifail; ac
  • yn gwahardd anffurfio anifeiliaid, gyda rhai eithriadau penodol.

Dolenni allanol defnyddiol

Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Nodiadau Esboniadol Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (Saesneg yn unig)