Skip to content

Lles anifeiliaid wrth gludo

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth am iechyd anifeiliaid ferm ac anwes.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Ceffyl
O 5 Ionawr 2007, mae Rheoliad newydd ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo yn berthnasol ar draws yr Undeb Ewropeaidd (UE), gyda rhai elfennau'n dod i rym yn 2008 a 2009. Mae hwn yn disodli Cyfarwyddeb yr UE 91/628.

Wybodaeth diweddaraf

Fe withredodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007 (dolen allanol) ar Fawrth 30 2007 ar gyfer gweinyddiad a gorfodaeth reoliad UE 1/2005 yng Nghymru.

Mae'r Rheoliad yn berthnasol i bawb sy'n ymwneud â chludo anifeiliaid sydd ag asgwrn cefn mewn cysylltiad â gweithgarwch economaidd.  Er enghraifft, cludwyr da byw a cheffylau, ffermwyr, pobl sy'n bridio anifeiliaid, cludwyr anifeiliaid  perfformio a'r rhai sy'n gweithio mewn canolfannau cydosod marchnadoedd a lladd-dai.  Nid yw'r Rheoliad yn berthnasol i unigolion sy'n marchogaeth er mwyn pleser ac sy'n cludo eu ceffyl eu hunain neu i unigolion sy'n mynd â'u hanifeiliaid anwes ar wyliau. Nid yw'n berthnasol i ffermwr sy'n cludo un anifail yn unig.

Eithriadau i'r Rheoliad

Nid yw'r Rheoliad yn gymwys i gludo anifeiliaid:

  • pan nad yw'n gysylltiedig â gweithgarwch economaidd
  • i bractis neu glinig milfeddyg neu oddi yno o dan gyngor milfeddygol
  • sy'n anifeiliaid anwes sy'n teithio yng nghwmni eu perchnogion

Anifeiliaid na ellir eu cludo (ac eithro cyngor milfeddyg)

  • anifeiliaid nad ydynt yn iach
  • anifeiliaid ifanc iawn
  • lloi sy'n iau na 14 diwrnod oed
  • anifeiliaid beichiog
  • cathod a Chwn o dan 8 wythnos oed

Tystysgrifau Hyfforddiant a Chymhwysedd

O 5 Ionawr 2008 bydd yn rhaid i gludwyr a chynorthwywyr sy'n defnyddio cerbydau ffyrdd i gludo anifeiliaid fferm, dofednod neu geffylau at bwrpas busnes fwy na 65 cilomedr dderbyn hyfforddiant a chael tystysgrif i brofi eu bod yn gymwys gan gorff annibynnol a benodir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Y National Proficiency Tests Council (NPTC), rhan o'r City and Guilds Group, fydd yn darparu hyfforddiant a thystysgrifau cymhwysedd. Mae'r NPTC yn cynnig asesiadau ar-lein a hyfforddiant ac asesiadau personol. O fis Medi ymlaen, bydd NPTC yn cynnig cyrsiau asesu gyda cholegau a hyfforddwyr penodol ledled Cymru. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
NPTC, Stoneleigh Park, Warwickshire, CV8 2LG Ffôn: 024 7685 7300
www.nptc.org.uk (dolen allanol - Saesneg yn unig)

Hefyd, gallwch gysylltu â'ch hyfforddwyr neu'ch coleg lleol am fwy o wybodaeth.

Cyswylltiau Allanol

Defra - Lles Anifeiliaid wrth gludo (dolen allanol - Saesneg yn unig)
Llywodraeth Albanaidd - Trawsgludiad Masnachol Anifeiliaid (dolen allanol - Saesneg yn unig)
DARDNI - Lles Anifeiliaid wrth gludo (dolen allanol - Saesneg yn unig)