Skip to content

Cynlluniau wrth gefn ar gyfer ffermwyr

Dolenni perthnasol

Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Dylai pob busnes fferm ofalu bod ganddo gynllun addas i ddelio â chlefydau.

Rydym yn annog pob ffermwr i wneud yn siwr fod ganddo gynllun wrth gefn rhag ofn y daw clefyd egsotig a tharo anifeiliaid ei fferm.  Bydd llawer o’r trefniadau ar gyfer delio â chlefydau yn addas hefyd ar gyfer delio ag argyfyngau eraill fel tywydd drwg, llifogydd ac ati.

Bydd ein hymateb ni yn dibynnu ar natur y clefyd, ond fe fydd fel arfer yn cynnwys gosod cyfyngiadau ar symud anifeiliaid, porthiant a cherbydau o fewn ardal benodol.  Er y gwnawn ni bopeth yn ein gallu i gadw effaith unrhyw gyfyngiadau mor fach â phosibl, ein cyfrifoldeb pennaf yw delio â’r clefyd.  Felly, yn yr ardaloedd fydd agosaf iddo, gallai’r cyfyngiadau bara am gryn amser.

Bydd hawl symud da byw mewn rhai amgylchiadau ac o dan amodau trwyddedau penodol  h.y. er mwyn godro’ch gwartheg neu i fynd ag anifail sâl at filfeddyg.  Er hynny, dylai pob ffermwr ystyried effaith y cyfyngiadau ar waith ei fferm.

Os ydych yn cadw da byw, dylech feddwl am y canlynol:

  • A oes gennych ddigon o borthiant a dŵr ichi allu cadw’ch anifeiliaid ar y fferm am gyfnod hir?
  • A oes digon o borfa ar gael i’ch da byw ei phori?
  • Os oes gennych dda byw ar ddaliad arall, a fyddan nhw’n gallu aros ar y daliad hwnnw os bydd angen?
  • Ydych chi wedi gwneud popeth posibl i ddiogelu’ch stoc trwy fesurau bioddiogelwch da?
  • Ydych chi’n cadw golwg ar eich da byw am arwyddion afiechyd?
  • Pa drefniadau eraill y gallwch eu gwneud ar gyfer gwerthu’ch stoc?

Dylai ffermwyr godro ystyried y gallai casglu llaeth fod yn broblem os caiff cyfyngiadau eu gosod oherwydd achos o glefyd.  Er hynny, byddwn yn ystyried rhoi trwydded i symud llaeth cyn gynted ag y medrwn ar ôl asesu’r risg.