Skip to content

Clefyd Affricanaidd y Ceffylau

Dolenni perthnasol

Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Merlod Exmoor
Clefyd hynod angheuol sy’n effeithio ar geffylau, mulod, asynnod a sebraod yw Clefyd Affricanaidd y Ceffylau. Mae'n Glefyd Hysbysadwy



Cefndir y clefyd

Clefyd sy’n cael ei ledaenu gan wybed yw clefyd Affricanaidd y ceffylau. Mae’n hysbys bod cŵn wedi cael eu heintio drwy fwyta cig ceffyl wedi’i heintio. Nid oes achos erioed wedi digwydd yn y DU, ond mae’n bodoli yn neheubarth Affrica. Cafwyd achos yn Sbaen yn gymharol ddiweddar, oedd yn gysylltiedig â mewnfudo sebraod o Affrica oedd wedi’u heintio.

Mae amgylchiadau hinsoddol, yn cynnwys tywydd cynnes, llaith a llawer o law, sy’n ffafrio gwasgaru’r pryfed sy’n cario’r clefyd (fel gwybed) yn dylanwadu ar wasgaru’r clefyd. Mae hyn yn ogystal â gwasgaru ar y gwynt.

Mae’r arwyddion clinigol yn dibynnu ar ba ffurf ar y clefyd sy’n bresennol:

  • Ar ei ffurf fwyaf acíwt, gyda chyfnod gori byr o dri i bum niwrnod yn unig, mae’r ceffylau sy’n dal y clefyd yn dioddef twymyn, yn ei chael yn anodd anadlu, yn peswch, ac mae llif mawr o’r ffroenau. Mae’r gyfradd marwolaethau’n uchel iawn, gyda 95% o geffylau’n marw o fewn wythnos.
  • Yn y ffurf sy’n effeithio ar y galon, gyda chyfnod gori rhwng saith a phedwar diwrnod ar ddeg, mae chwyddo ar y pen, yr amrantau, y gwefusau, y bochau ac o dan yr ên. Mae’r gyfradd marwolaeth tua 60 y cant, gyda marwolaeth yn digwydd yn sgil methiant y galon.
  • Mae ffurf gymysg y clefyd yn gyfuniad o’r ddau fath uchod. Mae’r cyfnod gori rhwng pump a saith niwrnod, ac mae’r clefyd yn ymddangos yn wreiddiol drwy arwyddion anadlol ysgafn, yna’r chwyddo sy’n arferol i’r ffurf sy’n effeithio ar y galon.
  • Twymyn clefyd y ceffylau yw'r ffurf ysgafnaf, gyda thymheredd isel yn y bore sy’n cyrraedd uchafbwynt yn y prynhawn.

Os ydych yn amau arwyddion o Glefyd Affricanaidd y Ceffylau (CAC), rhaid i chi hysbysu eich swyddfa leol Iechyd Anifeiliaid a'r Asantiaeth Labordai Milfeddygol ar unwaith (cyswllt allanol - Saesneg yn unig).

Brechu

Ar hyn o bryd, nid yw’r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi trwyddedu brechlyn ar gyfer CAC. Mae perygl o ddefnyddio brechlyn byw wedi’i addasu ar gyfer Clefyd Affricanaidd y Ceffylau (fel yr un sy’n cael ei gynhyrchu gan Onderstepoort Biological Products Ltd yn Ne Affrica) y bydd feirws y brechlyn yn troi’n ôl i fath gwyllt. Mae hyn yn golygu y gallai’r feirws a ddefnyddir yn y brechlyn newid a heintio’r pryfed sy’n ei ledaenu, ac felly’n heintio ceffylau a allai gael yr haint. Ar hyn o bryd, ni chaiff y brechlyn ei ystyried i’w ddefnyddio yn y DU heblaw mewn argyfwng.

Clefyd Affricanaidd y Ceffylau:  Strategaeth rheoli'r clefyd ym Mhrydain Fawr

Mae'r ddogfen yma yn amlinellu sut i reoli achosion o Glefyd Affricanaidd y Ceffylau (CAC) ym Mhrydain Fawr. (Dolen allanol)

Clefyd Affricanaidd y ceffylau: Holiadur

07/09/09
Cewch ddod o hyd i'r cwestiynnau a'u ofynnwyd yn gyffredin ynglyn a chlefydd Affricanaidd y ceffylau, yma.