Skip to content

Ffliw Adar

Dolenni perthnasol

Cyhoeddwyd y Datganiadau ar gyfer achos o glefyd hysbysadwy yn dilynol yn 2008.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
iâr

Mae Ffliw adar yn glefyd heintus iawn sy’n effeithio ar system anadlu, system dreulio a/neu system nerfol sawl math o aderyn.

Clefyd sy'n effeithio ar adar yw ffliw adar. Gall effeithio ar bobl, ond mae nifer yr achosion yn fach iawn. Ceir sawl math o feirws ffliw adar sy'n amrywio o ran eu gallu i achosi clefyd. Caiff feirysau ffliw adar eu categoreiddio yn ôl eu gallu i achosi clefyd difrifol mewn rhywogaethau o adar.  Y rhain yw:

  • Feirysau Ffliw Adar Pathogenedd Uchel (HPAI); neu
  • Feirysau Ffliw Adar Pathogenedd Isel (LPAI)

Gall rhai mathau o HPAI ledu'n ddidrafferth ac yn gyflym rhwng adar o fewn poblogaethau adar ac achosi clefyd difrifol, gyda chyfradd farwolaeth uchel.

Gall feirws ffliw newydd sy'n wahanol iawn i fathau diweddar neu bresennol o feirysau ffliw mewn pobl beri risg i boblogaeth y byd. O'r herwydd mae'n rhaid mynd ati ar unwaith i reoli unrhyw achos o ffliw adar. Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n gweithio'n agos gydag adar sydd wedi'u heintio gael eu diogelu'n dda. Mae cynlluniau wrth gefn yn bodoli er mwyn sicrhau y gall hyn gael ei gyflawni.

Mae hi'n allweddol fod pob ceidwad adar yn parhau i arfer y lefelau uchaf o bioddiogelwch ac yn chwilio am unrhyw arwyddion o glefyd. Os ydych yn bryderus ynghylch iechyd eich adar dylech geisio cyngor oddi wrth eich milfeddyg. Os ydych yn amau bod ffliw adar ar eich adar, dylech hysbysu'ch swyddfa Iechyd Anifeiliaid a’r Asiantaeth Labordai Milfeddygo leol.

Mae'r DU wedi bod yn swyddogol rydd rhag ffliw adar ers mis Tachwedd 2008. Gallwch ddarllen yr wybodaeth ddiweddaraf ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) (dolen allanol).