Skip to content

TB mewn gwartheg

Dolenni perthnasol

Mae gofyn profi gwartheg cyn eu symud o fferm.
Dyma adroddiad y gweithdy ar frechu gwartheg rhag TB.
John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Cyhoeddwyd adroddiad flwyddyn gyntaf y Cynllun i Frechu Moch Daear yn yr Ardal Triniaeth Ddwys ym mis Ionawr 2013.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Buwch a llo

Yn yr adran hon, cewch wybodaeth am TB mewn gwartheg a'r Rhaglen i Ddileu TB yng Nghymru.

Mae TB gwartheg yn glefyd heintus sy’n effeithio ar iechyd a lles gwartheg yng Nghymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae’n fygythiad i’r diwydiant llaeth a chig eidion yng Nghymru. 

Mae gan TB ddylanwad sylweddol ar gynhyrchiant amaethyddol, a gall hyn effeithio ar ein cyflenwad bwyd ac ar ein cymunedau gwledig.

Mae'r gost o ddigolledu ffermwyr wedi cynyddu'n ddramatig i'r trethdalwr yn ystod y degawd diwethaf. Ers 2000 mae dros a £100 miliwn wedi'i wario ar iawndal yn unig.

Gwartheg a moch daear yw'r prif ffynonellau TB yn y Deyrnas Unedig, ond gellir ei drosglwyddo i famaliaid eraill ac i bobl hefyd.

Y Diweddaraf 28 Tachwedd 2012: 1400 o foch daear wedi cael eu brechu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi brechu dros 1400 o foch daear yn yr Ardal Triniaeth Ddwys, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths.

Cadarnhaodd y Gweinidog bod blwyddyn gyntaf rhaglen brechu moch daear Llywodraeth Cymru wedi dod i ben.  Mae’n rhan o raglen ehangach i ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru.

I weld fideo byr o’r broses o frechu moch daear, ewch i sianel YouTube Llywodraeth Cymru. Am gopi ar DVD, cysylltwch â ni: Y Tîm TB, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu e-bostiwch bovinetb.comms@cymru.gsi.gov.uk

Os nad yw'r wefan hon yn ateb eich cwestiwn, mae croeso ichi gysylltu a ni ar: bovinetb.comms@cymru.gsi.gov.uk