Skip to content

Cefndir

Dolenni perthnasol

Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i Wenidogion Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ynglyn a'r Ardal Triniaeth Ddwys ar gael yma.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Mae TB buchol yn glefyd cronig a gwanychol a all effeithio ar bob mamal.

Gall TB buchol effeithio ar gwartheg, moch daear, camelidau (lamas, alpacas, guernacos), geifr a cheirw. Mae trosglwyddiad uniongyrchol o fuwch i fuwch yn ffactor pwysig yn lledaeniad y clefyd. Mae tystiolaeth glir hefyd fod y clefyd yn cael ei drosglwyddo rhwng gwartheg a moch daear, ac yn wir mewn ardaloedd lle y mae TB yn broblem fawr, mae moch daear a gwartheg yn heintio ei gilydd.

Mae'r sefyllfa o ran TB buchol wedi mynd yn gynyddol waeth ers yr 1980au ond dros y deng mlynedd diwethaf mae lefel y clefyd mewn rhannau o Gymru wedi cyrraedd lefelau anghynaliadwy:

  • Mae mwy na £120 miliwn wedi'i wario ar iawndal am anifeiliaid a gaiff eu lladd oherwydd TB buchol. Mae cost y gwaith gwyliadwriaeth, sy'n cynnwys profi a gorfodi, yn ychwanegol at hyn.
     
  • Ar unrhyw adeg, mae tua 10% o ffermydd gwartheg Cymru o dan gyfyngiadau symud oherwydd TB gwartheg.
     
  • Mae mwy na 8,000 o wartheg wedi cael eu lladd oherwydd y clefyd.
     
  • Mae cynnydd yn ogystal yn nifer yr achosion o'r clefyd mewn anifeiliaid eraill a allai gael yr haint.

Sefydlwyd y Rhaglen Dileu TB gan Lywodraeth Cymru yn 2008 i ddileu TB gwartheg yng Nghymru. Mae’r rhaglen dileu TB am ddelio â phob un o ffynonellau’r haint, gan gynnwys gwartheg, anifeiliaid fferm eraill ac anifeiliaid gwyllt. Rydym am daclo’r clefyd mewn ffordd gynhwysfawr ac integredig a chyflwyno rhannau’r rhaglen bob yn dipyn, gan ymdrin â phob agwedd ar atal a throsglwyddo’r clefyd ac ar reoli achosion o TB. Rhaid dilyn y trywydd hwn er mwyn sicrhau ein bod yn cael effaith barhaol ar y clefyd yng Nghymru.