Skip to content

TB mewn Gwartheg yng Nghymru – pa mor ddifrifol yw’r broblem

Dolenni perthnasol

Allwch ddod o hyd i fap o’r Ardal Triniaeth Ddwys yma
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Mae nifer yr achosion o TB yng Nghymru wedi cynyddu dros y 25 o flynyddoedd diwethaf.

Yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, roedd llawer o bobl yn cael eu taro’n wael ac yn marw yn sgil TB gwartheg ym Mhrydain – ond fe wellodd y sefyllfa ar ôl cyflwyno cynlluniau pasteureiddio llaeth gorfodol a chynnal profion twbercwlosis ar wartheg yn y 1950au. Erbyn y 1970au, disgynnodd achosion o TB gwartheg i lefel isel.

Ym 1985 nid oedd unrhyw achosion newydd o TB yng Nghymru. Ers dechrau’r 1990au, fodd bynnag, mae’r achosion wedi dechrau cynyddu eto. Yn 2000 roedd 264 o achosion a gwelwyd cynnydd sylweddol yn dilyn epidemig Clwy’r Traed a’r Genau yn 2001 pan na chynhaliwyd profion arferol am bron i flwyddyn.

Cynyddodd yr achosion o TB gyntaf yn ardal y de ddwyrain, yn enwedig Sir Fynwy. Dilynwyd hyn yn fuan wedyn gan ardal y de orllewin, yn enwedig Sir Benfro, ac erbyn dechrau’r 2000au, roedd mwy o achosion yma nag yn y de ddwyrain. Ni chafwyd cynnydd difrifol yn ardal y canolbarth, yn enwedig gorllewin Powys, tan y flwyddyn 2000. Ychydig iawn o achosion o TB gwartheg a gafwyd yn y gogledd hyd yma, er ei fod wedi dechrau cynyddu yn 2007, yn y gogledd orllewin yn bennaf. Cyrhaeddodd yr achosion o TB gwartheg, o ran nifer yr anifeiliaid a buchesi yr effeithiwyd arnynt, eu hanterth yn 2008. Cwympodd wedyn yn 2009.

Un o fentrau allweddol cyntaf y Rhaglen Dileu TB mewn Gwartheg oedd sefydlu Archwiliad Iechyd TB Cymru, sef prawf ar gyfer pob buches yng Nghymru dros gyfnod o 15 mis er mwyn sicrhau darlun mwy cywir o’r sefyllfa o ran y clefyd.

Mae canlyniadau Archwiliad Iechyd TB Cymru yn dangos yn glir fod nifer yr achosion o’r clefyd yn amrywio’n sylweddol ar draws Cymru ac o fewn rhanbarthau. Er enghraifft, ceir nifer isel o achosion o TB yng ngogledd-orllewin Cymru ond de-orllewin Cymru yw un o’r ardaloedd sydd â’r nifer mwyaf o achosion yn Ewrop. Mae’n rhaid cydnabod, hyd yn oed o fewn yr ardaloedd â’r nifer mwyaf o achosion, nad yw’r rhan fwyaf o fuchesi wedi’u heintio ac mae’n rhaid cymryd pob cam posibl i’w diogelu rhag haint.

Ers mis Ionawr 2010 caiff pob buches yng Nghymru ei phrofi bob blwyddyn. Golyga hyn mai cymharol isel yw nifer yr achosion o TB nad ydynt yn cael eu datgelu.