Skip to content

Effeithiau Economaidd-gymdeithasol

Dolenni perthnasol

Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Mae'n hysbys bod achosion o glefydau anifeiliaid fel tb mewn gwartheg yn cael effeithiau cymdeithasol ac economaidd ar ffermwyr, milfeddygon ac eraill sy'n byw yng nghefn gwlad.

Lles ffermwyr

Mae TB gwartheg yn effeithio ar les ffermwyr. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod ffermwyr mewn ardaloedd lle ceir llawer o TB wedi anobeithio am eu gallu i wneud unrhyw beth am TB, ac yn teimlo eu bod wedi'u tynghedu i'w ffawd. Gall hyn eu harwain i:

  • beidio â chydweithredu â chyfundrefnau profi.
  • Gall hefyd arwain at weithgarwch anghyfreithlon (difa moch daear);
  • peth anfodlonrwydd i ddefnyddio mesurau rheoli gwirfoddol (fel gwella bioddiogelwch); a
  • synnwyr cyffredinol o anobaith (2, 3).

Mae tystiolaeth o'r Ardal Triniaeth Ddwys yng Nghymru yn awgrymu mai ychydig o ffydd sydd gan ffermwyr yn eu gallu i wneud unrhyw beth i osgoi TB na'u siawns o osgoi cyfyngiadau yn y dyfodol (4).Mae tystiolaeth o arolwg gan y Rhwydwaith Argyfwng Ffermio yn awgrymu:

  • bod 20% o ffermwyr yn mynd i banig o dderbyn newyddion bod achos arall o TB yn eu buches, neu'n cael eu llorio'n llwyr gan y newyddion.
  • bod y newyddion yn ysgytwad neu'n destun gofid i 50% yn rhagor ohonynt.

Yn yr arolwg, roedd ffermwyr wedi dweud bod achosion o TB yn cael effeithiau emosiynol ar y teulu cyfan, gan arwain at straen ar y berthynas rhwng gwahanol aelodau (5).

Mae gwaith ymchwil diweddar gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn awgrymu y gall ffermwyr llaeth neu wartheg sugno sydd wedi profi achos o TB ddioddef lefelau uchel o straen. Mae'r lefelau hyn:

  • yn uwch nag ymysg ffermwyr nad ydynt wedi profi achos o TB
  • yn uwch na'r hyn y byddai disgwyl ei weld ymysg y cyhoedd yn gyffredinol
  • mor uchel â'r hyn a brofwyd yn ystod yr achos o glwy'r traed a'r genau yn 2001 (6).

Mae goblygiadau ariannol i'r effeithiau hyn, ond maent yn anodd eu mesur.  

Costau Economaidd Hirdymor

Mae gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu, ar ffermydd llaeth sydd wedi profi achos o TB:

  • bod llai o laeth yn cael ei gynhyrchu
  • bod ffermwyr a'u teuluoedd yn gweithio oriau hirach
  • bod yr incwm, o ran incwm arian parod ac incwm y teulu, yn is.

Does dim amrywiadau cyson mewn Incwm Net Ffermydd ac Incwm yn Sgil Rheoli a Buddsoddi rhwng ffermydd sydd â TB a ffermydd sydd heb TB.

Mae tueddiadau tebyg ymysg ffermwyr buchesi gwartheg sugno:

  • maent yn cynhyrchu llai
  • mae eu hincwm yn is
  • maent yn gweithio oriau hirach

Yn gyffredinol, mae'r data yn awgrymu nad yw ffermydd ag achos o TB yn perfformio cystal â ffermydd sydd heb TB (6).

Cyfeiriadau:

  1. M. Mort, I. Convery, J. Baxter a C. Bailey (2005) 'Psychosocial effects of the 2001 UK foot and mouth disease epidemic in a rural population: qualitative diary based study', British Medical Journal. Mort M, Convery I, Baxter J a Bailey C (2008) Animal Disease and Human Trauma: the Psychosocial Implications of the 2001 UK Foot and Mouth Disease Disaster, Journal of Applied Animal Welfare Science, Cyfrol 11, 2, 133-148.
     
  2. Enticott, G. (2008) Final Report to the Economic and Social Research Council - Biosecurity and the Regulation of Animal Health: The Case of Bovine Tuberculosis. Enticott, G. (2008) The ecological paradox: social and natural consequences of the geographies of animal health promotion. Transactions of the Institute of British Geographers, 33 433–446.
     
  3. Defra (2009) Adroddiad Ymchwil Terfynol – SE3039: Identification of changes in individual and global farmer behaviour relating to the movement and managment of cattle in the UK with particular reference to the introduction of  bTB control measures.
     
  4. Adroddiad Blynyddol – Rhaglen i Ddileu TB Buchol (2010) 
     
  5. Y Rhwydwaith Argyfwng Ffermio (2009) Stress and Loss.  A report on the impact of bovine TB on farming families.
     
  6. Defra (2010) Adroddiad Ymchwil Terfynol - SE3120: Identification of changes in individual and global farmer behaviour relating to the movement and managment of cattle in the UK with particular reference to the introduction of  bTB control measures.