Skip to content

Beth yw TB gwartheg?

Dolenni perthnasol

Dysgwch fwy am rhaglen Llywodraeth Cymru i ddileu TB.
Mae’r tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth am nifer o afiechydon anifeiliaid, gan gynnwys TB mewn gwartheg ac y Tafod Glas.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Mae TB gwartheg yn glefyd cronig sy’n gallu effeithio ar amrywiaeth o famaliaid gan gynnwys gwartheg, moch daear, ceirw a phobl.

Mae TB mewn gwartheg yn glefyd cronig a heintus sy’n gwanhau’r anifail y cael ei achosi gan y bacteriwm Mycobacterium bovis (M.bovis) sy’n ei achosi. Gall misoedd neu flynyddoedd fynd heibio rhwng adeg yr heintiad a'r adeg y daw'r clefyd i'r amlwg yn yr anifail. Gall gwartheg sydd wedi'u heintio ledaenu'r haint ymhell cyn iddynt ddangos unrhyw arwydd eu bod yn sâl. Oherwydd hyn, mae'r gwaith o reoli a dileu'r clefyd yn dibynnu ar y gallu i ddod o hyd i'r anifeiliaid sydd wedi'u heintio, a chael gwared arnynt, cyn eu bod yn mynd yn sâl. Does dim triniaeth effeithiol yn bodoli ar gyfer gwartheg sydd wedi'u heintio.

Yn bennaf, mae'r clefyd yn effeithio ar ysgyfaint gwartheg a'r nodau lymff yn eu brestiau. Tybir mai'r ffordd hawsaf i heintio gwartheg yw drwy'r llwybr anadlol. Hefyd mae modd i'r clefyd ledaenu, yn llai hawdd, drwy'r geg. Bryd hynny, bydd yn effeithio ar nodau lymff y pen a'r system dreulio. Yn ystod cyfnod cynnar yr heintiad, mae'r clefyd yn effeithio ar rannau penodol o'r corff yn unig. Dim ond yng nghyfnod diweddarach y clefyd y bydd yr haint yn lledaenu drwy'r corff. Mae'r arwyddion clinigol, er mai pur anaml y maent i'w gweld, yn cynnwys peswch cronig, colli pwysau a mastitis (pan fydd y pwrs yn cael ei heintio). 

Mae tystiolaeth y gall TB gwartheg gael ei drosglwyddo gan foch daear i wartheg a chan wartheg i foch daear.  Cafwyd tystiolaeth o gysylltiad rhwng gwartheg, moch daear a TB ers dod o hyd i garcas mochyn daear oedd wedi'u heintio yn Swydd Gaerloyw ym 1971. Roedd adroddiad terfynol yr Hap-dreial Difa Moch Daear yn dod i'r casgliad bod tystiolaeth gref bod gan foch daear rôl i'w chwarae o ran lledaenu TB.   Daeth yr adroddiad Moch Daear a Geir yn Farw i’r casgliad bod moch daear yn elfen bwysig o epidemioleg TB gwartheg mewn ardaloedd lle mae nifer yr achosion o TB mewn gwartheg yn uchel. 

Er mai effeithio ar wartheg a moch daear y mae’r clefyd yn bennaf, mae’n gallu effeithio ar anifeiliaid domestig ac anifeiliaid gwyllt fel:

  • Teulu’r camel (lamas, alpacas, gwanacos a vicunas).
  • Ceirw.
  • Geifr.
  • Defaid.
  • Moch.
  • Baeddod gwyllt.
  • Cathod.
  • Cŵn.

Mae TB gwartheg yn glefyd hysbysadwy ac mae’n gallu effeithio ar bobl.  Er hyn, prin iawn yw’r risg i iechyd pobl gan fod llaeth yn cael ei basteureiddio (sy’n lladd M.bovis).  Hefyd, mae gwartheg yn cael eu harchwilio’n rheolaidd ac os oes TB arnynt, maent yn cael eu difa.