Skip to content

Rhaglen Dileu TB mewn Gwartheg

Dolenni perthnasol

Croesawodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths gymeradwyaeth Ewropeaidd i Gynllun Dileu TB Cymru 2013.
Cewch atebion i'r cwestiynnau fwyaf cyffredin am yr Ardal Triniaeth Ddwys yma.
John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Arbrofi am TB

Rydym am ddefnyddio pob dull a modd posibl o fynd i’r afael a TB mewn gwartheg yng Nghymru.

Rydym ni wedi ymrwymo i gynnal rhaglen dileu TB mewn gwartheg. Dylid mynd ati i ymdrin â TB yn yr un modd ag yr eir ati i ddelio â chlefydau anifeiliaid eraill:

  • Sef canfod y clefyd;
  • Delio â tharddle’r haint;
  • Ei ddileu ac
  • Ei atal rhag ailgydio.

Ar 20 Mawrth 2012, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd John Griffiths Fframwaith Strategol ar gyfer difodiad TB mewn Gwartheg dros y pedwar mlynedd nesaf. Mae hyn yn adeiladu ar wyliadwriaeth gwartheg a mesuriadau rheolaeth, arferion gorau bioddiogelwch a’r mewnbwn ymrwymiad cyfanddaliadwyr cynfodol. Mae hyn  yn cynnwys brechu moch daear o fewn yr Ardal Arwaith Ddwys.

Mae'r Fframwaith Strategol ar gyfer dileu TB mewn gwartheg yn amlinellu amcanion heriol a blaengar y Llywodraeth hon am y bedair mlynedd nesaf er mwyn dileu TB mewn gwartheg. Dyma rai o’r amryfal ddulliau rydym yn eu defnyddio:

  • Cyflymu’r drefn brofi - symud anifeiliaid heintus o’r ffarm yn gyflymach;
  • Newid y drefn ddigolledu - newid y drefn ddigolledu er mwyn annog ceidwaid buchesi i ddilyn arferion gorau;
  • Bywyd gwyllt - Rhaid i ni fynd i’r afael â holl darddleoedd yr haint.  Mae hyn yn cynnwys bywyd gwyllt yn ogystal â gwartheg. Bioddiogelwch - datblygu a hybu arferion hwsmonaeth a  mesurau biodiogelwch gwell er mwyn lleihau’r perygl o ddod â’r clefyd i ffermydd neu i reoli’r clefyd sy’n bodoli;
  • Brechlyn - cefnogi’r gwaith o ddatblygu a threialu brechlynau rhag TB mewn gwartheg ar gyfer gwartheg yng Nghymru, a hynny ar y cyd â rhaglen frechu’r DU;
  • Camelidau - cafwyd achosion o TB mewn gwartheg ymhlith buchesi o gamelidau yng Nghymru, megis lamas ac alpacas. Byddwn yn datblygu fframwaith i fynd ati i drin a’r afiechyd mewn camelidau;
  • Byrddau Rhanbarthol Dileu TB - Mae tri bwrdd wedi’u sefydlu er mwyn gallu delio â’r clefyd ar lefel leol.

Gallwn ni ddim gwneud hyn heb gymorth y diwydiant a’n cymunedau gwledig.