Skip to content

Feirws Schmallenberg

Dolenni perthnasol

Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Diadell o ddefaid

Mae tudalen hon yn cynnwys wybodaeth ar gyfer feirws newydd, yr anifeiliaid sy'n cael eu effeithio, yr arwyddion clinigol ac y perygl i iechyd pobl.

Feirws newydd sydd wedi’i ganfod mewn gwartheg, defaid a geifr yw feirws Schmallenberg (SBV). Nid yw SBV yn glefyd hysbysadwy. 

Mae’r feirws hwn yn rhan o grŵp o feirysau sy’n cael eu lledaenu gan bryfed (gwybed gan fwyaf). Canfuwyd y clefyd hwn am y tro cyntaf yn yr Almaen yn 2011 ac ers hynny mae wedi lledaenu ledled gogledd Ewrop a’r DU.

Y tro cyntaf y canfuwyd SBV yng Nghymru oedd ar safle yng Ngheredigion ym mis Medi 2012.

Mae’r feirws wedi cael ei gysylltu â chlefyd ysgafn/cymedrol byr mewn gwartheg aeddfed. Mae achosion o erthyliad hwyr neu nam geni wedi’u gweld mewn defaid, geifr a gwartheg newydd-anedig.

Mae’r diwydiant da byw yn cynnal arolwg er mwyn ceisio gweld beth oedd effaith clefydau (gan gynnwys y feirws Schmallenberg) a thywydd gwael y llynedd ar ŵyn ledled Prydain.

Paratowyd yr arolwg hwn gan nifer o gyrff y diwydiant gyda chymorth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a’r Labordai Milfeddygol (AHVLA).

Byddem yn annog holl ffermwyr defaid Cymru i ateb y cwestiynau hyn gorau gallant.

Mae modd gweld y wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am Schmallenberg drwy glicio ar y dolenni isod.

Dolenni perthnasol:

Y diweddaraf ar feirws Schmallenberg gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol (AHVLA) - (dolen allanol - Saesneg yn unig).

Yr Asiantaeth Labordai Milfeddygol - Feirws Schmallenberg (dolen allanol).

Asesiad effaith yr UE (dolen allanol - Saesneg yn unig).

Feirws Schmallenburg: dadansoddiad o'r ddata epidemiolegol - Tachwedd 2012 (dolen allanol - Saesneg yn unig)

Arolwg ŵyn (ddolen allanol - Saesneg yn unig)

Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (ddolen allanol - Saesneg yn unig)