Skip to content

Y Clafr

Dolenni perthnasol

Strategaethau rheoli llyngyr newydd ar gyfer defaid i arafu datblygiad ymwrthedd i gyffuriau anthelmintig.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.



Y clafr yw un o’r afiechydon mwyaf heintus i ddefaid yng Nghymru.

Mae’r clafr yn cael ei achosi gan widdonyn (Psoroptes ovis). Mae’n cael ei drosglwyddo trwy gyswllt uniongyrchol â defaid heintiedig neu wrthrychau halogedig neu o ardaloedd lle mae defaid heintiedig wedi bod yn ddiweddar. Mae gwiddon y clafr yn byw ar groen y defaid gan achosi alergedd i’w tail. Yr adwaith alergaidd hwn sy’n achosi i’r defaid grafu.

Y Datblygiadau Diweddaraf

Y camau arfaethedig i’w cymryd i fynd i’r afael â’r clafr yng Nghymru

Mae’r Gweinidog dros Faterion Gwledig yn cytuno ar y camau arfaethedig i’w cymryd gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r clafr yng Nghymru. Mae’r rhain wedi’u blaenoriaethu yn gamau i’w cymryd yn y tymor byr, y tymor canolig neu’r tymor hir. Mae’r camau tymor byr i ganolig yn cynnwys, er enghraifft:

  • darparu canllawiau penodol i’r Awdurdodau Lleol ar orfodi Gorchymyn y Clafr 1997;
  • llunio taflen hyfforddi ar ddiagnosis;
  • adolygu’r wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu ar hyn o bry am y clafr; a
  • chodi ymwybyddiaeth yn gyffredinol.

Mae’r camau tymor hir yn canolbwyntio ar yr angen i roi mwy o ystyriaeth i newid y ddeddfwriaeth. Roedd yn amlwg o’r gweithdai fod safbwyntiau’n amrywio. Felly bydd gwaith yn cael ei wneud i gasglu mwy o dystiolaeth o ran nifer yr achosion o’r clafr sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru a monitro effaith rhoi Blaenoriaeth Genedlaethol i’r clafr yng Nghytundebau Fframwaith yr Awdurdodau Lleol.

Gweithdai ymgynghori ar y Clafr

Ym mis Tachwedd 2008, cytunodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig i ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol er mwyn casglu eu safbwyntiau ynghylch y mesurau arfaethedig i fynd i’r afael â’r clafr yng Nghymru. Cynhaliwyd gweithdai ymgynghori yn Aberhonddu, Caerfyrddin a Llanberis.

Nod cyffredinol y gweithdai hyn oedd nodi pam fod y clafr yn parhau i beri problem a chanolbwyntio yn benodol ar y camau gweithredu posibl y gallai’r rhanddeiliaid eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem hirhoedlog hon.

Mae’r wybodaeth a gyfrannwyd yn y gweithdai wedi ei chydgasglu bellach ac mae crynodeb o’r canfyddiadau ar gael.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Gorchymyn y Clafr 1997 (dolen allanol - Saesneg yn unig)

Mae mwy o wybodaeth am reoli y clafr i’w gweld ar dudalen Rheoli Paraseitiaid ar Ddefaid mewn ffordd Gynaliadw (dolen allanol - Saesneg yn unig)

Astudiaeth gan Brifysgol Bangor – Pa mor gyffredin yw achosion o’r clafr sy’n cael eu gadael heb eu trin yng Nghymru, a’r gost ariannol i’r diwydiant da byw

09/06/10
Nod yr astudiaeth yw cael amcangyfrifon gwell o faint o ffermwyr yng Nghymru sy’n amddiffyn eu defaid rhag y clafr ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cynhyrchu data am ba mor gyffredin yw’r clefyd, ac yn darparu amcangyfrifon economaidd gwell o’r gost o beidio â thrin y clefyd i’r diwydiant da byw yng Nghy ...
 

Nodyn Cyfarwyddyd am y Clafr

29/07/09
Cewch ddarllen manylion pellach yma
 

Tabl o’r camau i’w cymryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir

29/07/09
Mae’r Gweinidog dros Faterion Gwledig wedi cytuno ar y camau arfaethedig i’w cymryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r clafr yng Nghymru.
 

Gweithdai ymgynghori ar y Clafr

08/04/09
Mae’r wybodaeth a gyfrannwyd yn y gweithdai wedi ei chydgasglu bellach ac mae crynodeb o’r canfyddiadau ar gael
 

Taflen Casglwch Bob Diferyn

17/02/09
I gael rhagor o fanylion am yr ymgyrch Casglwch Bob Diferyn gwelwch y taflen isod