Skip to content

Astudiaeth gan Brifysgol Bangor – Pa mor gyffredin yw achosion o’r clafr sy’n cael eu gadael heb eu trin yng Nghymru, a’r gost ariannol i’r diwydiant da byw

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Nod yr astudiaeth yw cael amcangyfrifon gwell o faint o ffermwyr yng Nghymru sy’n amddiffyn eu defaid rhag y clafr ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cynhyrchu data am ba mor gyffredin yw’r clefyd, ac yn darparu amcangyfrifon economaidd gwell o’r gost o beidio â thrin y clefyd i’r diwydiant da byw yng Nghymru.
Mae’r clafr yn broblem lles sylweddol i’r defaid sy’n cael eu heintio ac mae yna oblygiadau ariannol hefyd i’r diwydiant yng Nghymru. Oherwydd y nifer fawr o symudiadau defaid, mae’n anodd cael gwybod pa mor gyffredin yw’r clafr yng Nghymru. Fodd bynnag mae’r wybodaeth sydd wedi dod i law yn awgrymu ei fod yn gyffredin iawn.  

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cefnogi astudiaeth gan Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Nod yr adroddiad yw cael amcangyfrifon gwell o faint o ffermwyr yng Nghymru sy’n amddiffyn eu defaid rhag y clafr ar hyn o bryd. Rhagwelir y bydd y data sy’n deillio o’r astudiaeth, o ran pa mor gyffredin yw’r clefyd, yn helpu i gael amcangyfrifon gwell o’r gost o beidio â’i drin i’r sector da byw yng Nghymru.  

 

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen yr adroddiad llawn. Nodwch mai thrwy Saesneg yn unig mae ar gael.