Skip to content

Syrcasau

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth am iechyd anifeiliaid ferm ac anwes.
Wybodaeth am swyddfeydd Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol yng Nghymru - ble maen nhw a sut i gysulltu ân nhw.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Syrcas
Mae'r tudalen hon yn cynnwys manylion o reolaethau ar gyfer syrcasau sy'n symud rhwng aelod wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd.



Mae Rheoliad 1739/2005 y Comisiwn yn ymdrin â symud anifeiliaid syrcas ac actau anifeiliaid rhwng gwledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE).  Cafodd y Rheoliad ei gyflwyno er mwyn ei gwneud yn haws i syrcasau ag anifeiliaid ac actau anifeiliaid deithio rhwng gwledydd yr UE trwy greu un set o reolau yn hytrach na bod gan bob gwlad ei set ei hun o reolau. Iechyd Anifeiliaid a’r Asiantaeth Labordai Milfeddygol (AHVLA) sy'n gyfrifol am weinyddu amodau'r Rheoliad yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae'r Rheoliad yn ymdrin â'r anifeiliaid eu prif bwrpas yw diddanu'r cyhoedd a chael eu dangos i'r cyhoedd.  Mae pob mamal (gan gynnwys ystlumod), aderyn a gwenynen ac eogiaid a brithyll yn dod o dan y rheoliad. Mae'r Rheoliad wedi'i ymgorffori yng nghyfraith Cymru trwy welliant i Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006. Y rheoliad diwygio yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Labordai, Syrcasau a Chwarantin i Adar) 2007 (cyswllt allanol (Saesneg yn unig) a ddaeth i rym ar 1 Gorffennaf 2007.

Os bydd syrcas neu act anifeiliaid yn bodloni'r amodau a ddisgrifir uchod, rhaid cadw at amodau canlynol Rheoliad 1739/2005 y Comisiwn:

  • cofrestru'r syrcas/act gyda'r awdurdod cymwys yng ngwlad ei gartref cyfreithlon neu yn y wlad y mae wedi'i leoli ynddi.  Yr awdurdod cymwys yn yr achos hwn yw corff y llywodraeth sy'n gyfrifol am roi Rheoliad 1739/2005 y Comisiwn ar waith.  Ym Mhrydain Fawr, AHVLA yw hwnnw;
  • cadw'r dogfennau sy'n cael eu rhoi wrth gofrestru (Llyfryn Cofrestru sy'n cynnwys Cofrestr Anifeiliaid a Chofrestr Lleoliadau) yn gyfoes a'u cadw am o leiaf 5 mlynedd;
  • cael pasbort i anifeiliaid y syrcas/act (heblaw cwn, cathod, ceffylau a ffuredau y mae angen pasbortau arnyn nhw ond o dan ddeddfwriaeth arall);
  • cynnal profion a brechu anifeiliaid y syrcas/act yn unol â'r gofynion ym mhasbortau anifeiliaid y syrcas/act;
  • cadw anifeiliaid sydd wedi'u cofrestru am eu bod yn rhan o'r syrcas/act ar wahân i anifeiliaid sydd heb eu cofrestru;
  • o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn teithio, bydd y syrcas/act cofrestredig yn cysylltu â'r Awdurdod Cymwys yn y wlad y mae'n aros ynddi ar y pryd i ofyn am Dystysgrif Iechyd ar gyfer Masnachu Anifeiliaid o fewn yr UE.  Bydd hyn yn caniatau i'r syrcas/act deithio i wlad arall yn yr UE. Ym Mhrydain Fawr, bydd gofyn llenwi ffurflen gais 'Traces EXA'. Cewch gopi ohoni trwy gysylltu â'ch swyddfa AHVLA leol;
  • o leiaf 48 awr cyn symud i wlad arall yn yr UE, bydd y syrcas/act yn rhoi gwybod i'r awdurdod cymwys yn y wlad y mae'n ei gadael pryd y bydd yn symud. Ar gyfer syrcasau/actau ym Mhrydain Fawr, mae ffurflen ar gael at y pwrpas hwn.

Os oes angen ichi gofrestru'ch syrcas/act yn unol â'r Rheoliad hwn, cysylltwch ag AHVLA yn y cyfeiriad/rhif ffôn isod:

Iechyd Anifeiliaid
Ceres House
2 Searby Road
Lincoln
LN2 4DT

Ffôn: 01522 529951
E-bost:  AH.Lincoln@animalhealth.gsi.gov.uk

Ffioedd

Mae AHVLA yn codi tâl arnoch am ffioeddgofrestru'ch syrcas/act a bydd yn rhaid talu hefyd am eich pasbortau syrcas/actau anifeiliaid.

Rheoliad 1739/2005 y Comisiwn

11/08/11
Mae Rheoliad 1739/2005 y Comisiwn yn ymdrin â symud anifeiliaid syrcas ac actau anifeiliaid rhwng gwledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE).
 

Adroddiad Syrcus: Cwestiynau ac atebion

11/08/11
Cwestiynau ac atebion ar gyfer Adroddiad gan Gadeirydd o' r Grwp Gweithiol Syrcas.
 

Addrodiad: Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcas Deithol

11/08/11
Fe gyhoeddir adroddiad gan Gadeirydd o' r Grwp Gweithiol Syrcas.