Skip to content

Mewnforion seunydd anifeiliaid at ddibenion ymchwil

Dolenni perthnasol

Wybodaeth am swyddfeydd Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol yng Nghymru - ble maen nhw a sut i gysulltu ân nhw.
Mae manylion y datblygiadau diweddaraf ym myd masnachu rhyngwladol yn cael eu cyhoeddi yn aml ar ffurf Nodiadau Gwybodaeth i Gwsmeriaid (CINs).
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Mae'r adran yma yn cynnwys cyfarwyddyd ar y mewnforiad o deunydd sy’n deillio o anifeiliaid at ddibenion gwaith ymchwil, addysg neu amgueddfeydd.

Canllawiau ar fewnforion at ddibenion ymchwil

Diben y canllawiau hyn yw helpu i roi cyngor i randdeiliaid ar sut a phryd i ddefnyddio Trwyddedau Cyffredinol ac Awdurdodiadau Cyffredinol i fewnforio deunyddiau sy’n deillio o anifeiliaid at ddibenion addysgol, gwaith ymchwil neu amgueddfeydd.

Mae’r System Trwyddedu Ymchwil yn caniatáu sefydliadau neu unigolion i fewnforio deunydd sy’n deillio o anifeiliaid at ddibenion gwaith ymchwil, addysg neu amgueddfeydd. Gall natur y gwaith ymchwil amrywio, a gall gynnwys:

  • Cwmni fferyllol yn datblygu cyffur.
  • Cynhyrchydd bwyd yn cynnal profion ansawdd.
  • Myfyriwr prifysgol yn gwneud gwaith ymchwil fel rhan o’i astudiaethau.

Dim ond fel sbesimen gwyddonol y gellir mewnforio’r deunydd. Ar ddiwedd yr astudiaeth mae’n rhaid iddo gael ei ddinistrio neu ei ail-allforio i Drydedd wlad.

Ni ellir defnyddio deunydd sy’n cael ei fewnforio o dan y system hon at ddibenion masnachol. Os ydych chi am fewnforio deunydd i’w storio a’i gyflenwi i drydydd parti iddyn nhw wneud gwaith ymchwil, mae’n rhaid defnyddio rheolau mewnforio masnachol.

A oes modd i mi fewnforio cynnyrch anifeiliaid o dan y System Trwyddedu Ymchwil?

Oes:
  • Os yw’r hyn sy’n cael ei fewnforio i’w ddefnyddio at ddibenion addysgol, gwaith ymchwil neu amgueddfeydd.
  • Os na fydd yr hyn sy’n cael ei fewnforio yn dod i gysylltiad ag unrhyw anifeiliaid cnoi cil, moch, dofednod neu geffylau.
  • Os gallwch gael gwared ar weddillion y deunydd a gweddill y deunydd pacio ar ôl cwblhau’r profion naill ai: drwy eu llosgi’n ulw mewn safle sydd wedi’i gymeradwyo, mewn awtoclaf neu ail-allforio.
  • Os nad yw’r cynhyrchion yn deillio o anifeiliaid sydd wedi’u heintio, neu sydd o dan amheuaeth o fod wedi’u heintio, â phathogen sy’n achosi clefyd hysbysadwy.
  • Os yw’r cynhyrchion yn deillio o anifeiliaid mewn safle neu ranbarth neu barth gwlad NAD YW’N destun cyfyngiadau swyddogol oherwydd clefyd hysbysadwy y gall yr anifeiliaid ei ddal yn ôl deddfwriaeth iechyd anifeiliaid Ewropeaidd neu genedlaethol arall.
Nac Oes:
  • Os ydych chi’n bwriadu cyflenwi’r hyn sydd wedi’i fewnforio i drydydd parti fel gweithred fasnachol.
  • Os ydych chi am fewnforio anifeiliaid byw.
  • Os yw’r cynnyrch yn cario pathogen anifail penodedig.
  • Os na allwch fodloni amodau’r drwydded/awdurdodiad.